'Nid yw'n angenrheidiol cau dwy ysgol ym Môn,' medd AC

  • Cyhoeddwyd
Rhun ap Iorwerth
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, AC Plaid Cymru, bod Ysgol Bodffordd yn llawn bwrlwm

Mae AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, yn dweud nad yw'n angenrheidiol cau ysgolion Bodffordd a Thalwrn ar yr ynys.

Ddiwedd Ionawr fe wnaeth cynghorwyr Ynys Môn bleidleisio dros ymgynghori eto ar ailstrwythuro ysgolion y sir, gan ddechrau yn ardal Llangefni.

Mae cau ysgolion Bodffordd a Thalwrn yn rhan o'r cynllun sydd wedi cael ei gymeradwyo gan y pwyllgor craffu er bod gwrthwynebiad yn lleol i gau'r ddwy ysgol.

Y bwriad yw symud plant ysgol Bodffordd i Ysgol Corn Hir yn Llangefni ac mae disgwyl i Ysgol Talwrn uno ag Ysgol y Graig.

Dan y cynlluniau, sy'n costio £16m, byddai Ysgol Corn Hir yn cael adeilad newydd gwerth £10m a byddai estyniad newydd gwerth £6m yn cael ei godi ar safle Ysgol y Graig.

Dywedodd Cyngor Ynys Môn nad yw'n gallu ymateb ar hyn o bryd i'r sylwadau gan fod ymgynghoriad yn cael ei gynnal.

Yn y gorffennol mae ymgyrchwyr wedi bod yn dweud y byddai cau'r ysgolion yn cael effaith andwyol ar y ddwy gymuned.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 80 o blant ar gofrestr Ysgol Bodffordd

Yn ôl Mr ap Iorwerth mae ysgol bresennol yn Llangefni yn "orlawn", ac ychwanegodd bod cau Ysgol Bodffordd yn ddianghenraid gan ei bod yn llawn bwrlwm.

"Mae ysgol Bodffordd yn ysgol lawn a byrlymus, felly yn ystod yr wythnosau diwethaf dwi wedi bod yn gofyn i'r cyngor gynllunio i agor adeilad newydd ar gyfer Corn Hir ond cydnabod ar yr un pryd le Ysgol Bodffordd o fewn y gymuned."

Dywedodd yr ymgyrchydd Gareth Parry: "Dyw hon ddim yn frwydr rhwng Bodffordd a Llangefni.

"Ry'n yn derbyn y problemau sy'n wynebu Corn Hir ac yn cefnogi adeilad newydd yno - maen nhw ei angen.

"Ond dyw hynna ddim yn golygu bod yn rhaid i chi gau ein hysgol. Mae hwn yn gynnig annheg."