Syr Bryn Terfel: Amser mwya' ‘brawychus’ sy’ 'di bod i’r celfyddydau

  • Cyhoeddwyd
Syr Bryn TerfelFfynhonnell y llun, S4C

Ddechrau'r wythnos roedd Bryn Terfel yn dathlu ei ben-blwydd yn 55 oed. Ag yntau wedi colli llawer o'i waith fel canwr opera eleni, gan fethu teithio dros gyfnod y pandemig, treuliodd ei ben-blwydd adref ym Mhenarth gyda'i deulu.

"Mae 'na sawl un yn dweud [mae'n siŵr ei bod hi wedi bod yn braf bod adra efo'r plant], ydy mae'n arbennig cael bod adra, ond nid gyda'r amgylchiadau o fod 90% o'r gwaith wedi ei daflu i'r môr oherwydd y pandemig erchyll hwn," meddai Bryn Terfel wrth sgwrsio ar raglen Dewi Llwyd fore Sul 8 Tachwedd ar Radio Cymru.

"Mae'r [pandemig] wrth gwrs wedi gosod y celfyddydau yn yr amser mwya' brawychus sydd wedi bod a dweud y gwir.

"Mae'r celfyddydau ar waelod y rhestr i'w cael eu hadfer yn ôl i'r cyhoedd, a fydd yn y diwedd â'r hyder i fynd yn ôl i'r theatrau."

Fe gafodd Bryn Terfel anffawd ar ddechrau'r flwyddyn tra'n perfformio yn Sbaen. Mi achosodd iddo fethu teithio i Efrog Newydd i berfformio yn y Metropolitan Opera, a hynny cyn sôn am Covid-19.

"Dechreuodd y flwyddyn sydd ohoni ddim cystal ag oedd rhywun yn feddwl. O'n i'n 'neud perfformiadau yn Bilbao yn Sbaen ac yn mwynhau cael Hannah a Lili [ei ferch] draw yno, ond un bore braf, o'n i fwy na thebyg â mhen yn y gwynt a mi lithrais a throi fel ballerina fawr a thorri fy nghoes mewn tri gwahanol lle.

"Wedyn hedfan yn ôl i Gaerdydd, colli'r perfformiadau a chael llawdriniaeth. Mi es i o dorri coes, cymryd pum mis i ddod dros hynny a cholli fy ngwaith i gyd, ac wedyn fe ddoth y Covid a'r cloi i fewn hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Bryn Terfel a Hannah Stone ar ddiwrnod eu priodas yn 2019

Erbyn hyn mae ychydig o olau ar ddiwedd flwyddyn galed, meddai Bryn Terfel.

"Dwi wedi cael o leia' 20% o'r gwaith yn ôl. Ym mis Awst mi es i Graz [yn Awstria] i ganu Fidelio am y tro cyntaf. Wrth gwrs mi oedd o'n waith i'w ddysgu o'r newydd. O'dd o'n dair perfformiad.

"Yn y misoedd dwetha dwi wedi 'neud cyngerdd yn y Barbican yn Llundain, lle adawyd 300 o bobl mewn i'r theatr. Ond hefyd mi wnes i deithio draw i Munich i neud tri perfformiad o Tosca."

Mae sefyllfa'r byd opera yn dra gwahanol yn yr Almaen, gyda mwy o fuddsoddiad ariannol, meddai Syr Bryn Terfel.

"Mae cyllid y tŷ opera allan o 120m Ewro yn agos at 80m Ewro, a hynny yn arian gan y Llywodraeth Almaenig, ond hefyd gan dref Munich a Bavaria. A'i meddylfryd nhw fis yn ôl oedd i ddod â 500 o bobl i theatr sy'n dal 2,000 o bobl, a'u cael nhw nôl. Dyna sy'n bwysig iddyn nhw, achos os nad ydyn nhw'n gwneud hynny rŵan, mae'n mynd i gymryd mwy o amser i'r bobl ddod nôl.

"Ac mi oedd y 500 tocyn yna i'r Tosca wedi eu gwerthu mewn dim, ond mae'r perfformiadau wedi stopio unwaith yn rhagor am fis dros Ewrop."

Daniel yn ffau'r llewod

Mae'r canwr opera erbyn hyn yn edrych ymlaen at "ran pwysig iawn" o'i flwyddyn. Ym mis Rhagfyr mi fydd yn gwneud perfformiad Nadoligaidd i dŷ opera Metropolitan yr Efrog Newydd, ond yng Nghymru, gan obeithio denu rhai cantorion eraill a grŵp gwerin Calan i ymuno ag ef.

"Mae Peter Gelb sy'n rhedeg y tŷ opera, wedi dewis pymtheg o gantorion, a dwi 'di cael fy newis i wneud yr un Nadoligaidd [yn y gyngerdd], gan obeithio rhoi cyfle i berfformwyr ifanc, i ymuno. Gobeithio fydd y peth yn llwyddiannus iawn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Bryn Terfel yn dad i bump o blant, Deio, Tomos a Morgan, a Lili sy'n dair oed a Alffi Bryn yn bedwar mis oed. Mae'n gobeithio am ddiwedd gwell i 2020, oherwydd wrth edrych yn ôl ar y flwyddyn hon, mae'n dweud ei fod yn "teimlo dipyn bach fel Daniel yn ffau'r llewod yn y pydew".

"Mae'r llywodraeth yma, mae eu genau nhw i gyd ynghau am y celfyddydau. Be' fysa rhywun yn hoffi gwneud yw dod ag ymwybyddiaeth y byd creadigol yn ôl unwaith eto i'n bywydau ni, achos i rai pobl mae'n rywbeth sy'n hollbwysig.

"Fel welwyd ym Munich ac yn Graz, roedd pobl yn awchu i gael gweld perfformiad byw unwaith yn rhagor."

Yr anrheg orau y gallai Bryn Terfel gael ar ei ben-blwydd eleni, meddai, ydy'r chwistrelliad yn erbyn y feirws, fel bod 2021 yn gallu bod yn flwyddyn wahanol iawn.

Hefyd o ddiddordeb: