Lle i enaid gael llonydd: Lisa Gwilym
- Cyhoeddwyd
Mae'r gyflwynwraig Lisa Gwilym yn lais cyfarwydd ar BBC Radio Cymru'n wythnosol ac yn cyflwyno rhaglenni fel Ffit Cymru ar S4C. Yma, mae'n trafod y lle sy'n rhoi llonyddwch meddwl iddi hi a'i gŵr, yr actor Llŷr Evans, a'u mab Jacob, yn agos at eu cartref yn Y Felinheli:
'Dod i adnabod ein milltir sgwâr'
Sawl gwaith dwi 'di deud eleni - "da ni'n lwcus bod ni'n byw mewn lle braf"?
Fel nifer o deuluoedd eraill, 'da ni wedi manteisio ar bob un cyfle i fynd allan i grwydro a dod i adnabod ein millitr sgwâr, ac wastad yn gwerthfawrogi'r golygfeydd a'r gwyrddni sydd o'n cwmpas.
A ninnau'n byw ym mhentref hyfryd Y Felinheli, mae modd dilyn llwybr yr arfordir a cherdded ar hyd lan y Fenai, a mwynhau pob math o ryfeddodau ar dir y Faenol.
Mynd heibio plasdy trawiadol Plas Newydd ochr arall y dŵr, chwarae cuddio yn y coed, chwilio am fywyd gwyllt yn un o'r cuddfannau adar, neu eistedd am funud i fyfyrio ac edrych draw tuag at Ben Llŷn.
Lliwiau'r blodau yn y gwanwyn, lliwiau'r dail yn yr hydref, mae o'r lle delfrydol i gael dianc a chael seibiant o'n bywydau prysur.
Does 'na'm eiliad o lonyddwch i'w gael efo hogyn bach chwech oed sy'n ysu i gael darganfod y byd, a 'da ni wrth ein boddau yn mynd ar anturiaethau yn ei gwmni ac yn ei annog i ddilyn llwybr ei hun.
A does dim yn well na chael bod allan yn yr awyr iach - yn cerdded, chwarae neu'n rhedeg - mae'n sicr yn dda i'r enaid.
A nai ddeud o eto, am y milfed tro eleni, 'da ni'n lwcus bod ni'n byw mewn lle mor braf'!
Hefyd o ddiddordeb: