Coflaid Cofid: Merched yn dangos eu breuder

  • Cyhoeddwyd
Iola YnyrFfynhonnell y llun, Iola Ynyr

Mae effaith pandemig Covid ar ein bywydau eleni wedi bod yn ysgytwol ond y peth sy' wedi taro'r cyfarwyddwr Iola Ynyr o Gaernarfon yw'r gefnogaeth mae wedi ei dderbyn gan ferched eraill dros gyfnod y clo.

Fel ymateb i'r gefnogaeth yna mae Iola wedi cychwyn prosiect Coflaid Cofid yn galw ar ferched i rannu dau lun o'u hunain: un ar eu cryfaf a mwyaf 'hardd' a'r llall ar eu mwyaf bregus. Ei bwriad yw annog trafodaeth a mynegiant gonest am y profiad o fyw fel merched.

Bu Cymru Fyw'n siarad gyda Iola am y prosiect:

'Cefnogaeth anhygoel'

Dw i 'di siarad yn eitha' cyhoeddus am y ffaith mod i'n alcoholic mewn adferiad a dw i wedi bod yn mynychu cyfarfodydd cefnogi ar gyfer hynny.

'Oedd hi'n ofid i mi yn ystod Covid sut fuaswn i'n ffeindio cefnogaeth i barhau yn fy adferiad. Dechreuais i ddefnyddio Zoom i fynd i gyfarfodydd a sylweddoli fod 'na gefnogaeth anhygoel ar gael ac yn arbennig gan ferched.

Mwya' sydyn dw i wedi dod yn rhan o grwpiau cysylltiol o bob math. Achos mod i wedi siarad yn onest am fy mhrofiadau cyn y cyfnod yma mae pobl hyd yn oed ar ochr stryd yn teimlo'n gyfforddus yn dod ata'i i rannu pryder.

'Nes i ddarganfod mai'r ffordd o'n i'n cadw'n hun yn iach ar gychwyn y cyfnod hwn oedd trwy siarad â ffrindiau, teulu a'r grwpiau yma yn onest.

'Mond i ni ffeindio awyrgylch diogel mae rhannu'n gofid mor llesol. Wrth i ni rannu 'da ni'n rhoi'r hawl i bobl eraill i rannu ac i gefnogi.

'Nath o'n nharo i pa mor syml oedd o.

Ffynhonnell y llun, Ceri Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Ceri Lloyd. Mae Iola'n gofyn am luniau 'sy'n caniatau i ferched fynegi eu cryfder a'u harddwch law yn law efo'u breuder'

Daeth yr enw Coflaid Cofid oherwydd, er mod i wedi ynysu yn gorfforol, yn ysbrydol a'n emosiynol, o'n i yn teimlo mod i'n cael fy nghofleidio mwy nag erioed.

Sefyllfa merched

Be' o'n i'n darganfod hefyd oedd bod y cyfnod clo yma yn gneud i ni gwestiynu ein hawliau fel merched - yn arbennig fel mamau - ac yn gwneud i ni gwestiynu bob dim am ein bywydau.

Wnaeth o wneud i mi gwestiynu lot fawr am fy sefyllfa i fel merch a sut ydw i wedi magu plant, sut fuaswn i yn 'neud o'n wahanol.

Dw i'n meddwl bod merched 'di gorfod sbio'n ddyfnach.

Ffynhonnell y llun, Beth Robinson
Disgrifiad o’r llun,

Beth Robinson

Breuder

Mae merched yn byw yn yr oes digidol yma lle mae delwedd mor allweddol - dw i'n meddwl fod 'na fwy o ddisgwyl i ni fod yn berffaith ymhob agwedd o'n bywydau so o'n i'n darganfod fod merched isho'r cyfle i ddangos pa mor fregus maen nhw'n teimlo (drwy rannu lluniau).

A finnau hefyd.

Ffynhonnell y llun, Mari Gwilym
Disgrifiad o’r llun,

Mari Gwilym

Hwn 'di'r eironi mawr - mae ynysu yn y cyfnod yma wedi dod â fi'n nes ata'i fy hun ac yn nes at ferched eraill a pobl eraill.

'Mond i ni ddechrau cysylltu mae cyswllt yn ffurfio egni ei hun. Dyna o'n i'n drio ei ddal. Drwy dyrchu fy mhrofiadau i dw i'n darganfod s'dim byd yn unigryw am fy mhrofiad i.

Mae o am bob unigolyn - bod ni gyd yn teimlo'n fregus a bod y cyfnod yma wedi gorfodi ni i edrych yn ddwfn ar ni ein hunain - a bod ddim isho bod ofn hynny a'i fod o'n llesol i edrych o'r newydd ar bob agwedd o'n bywydau ni.

Ffynhonnell y llun, Eluned Jones
Disgrifiad o’r llun,

Eluned Jones (ar y chwith) gyda'i chwaer. Dywedodd Iola: "Mae hi'n amhosib dweud pa un 'di'r un hardd neu cryf yn lot fawr o'r lluniau - a pha un ydy'r un bregus"

Ymateb

'Da ni 'di cael amrywiaeth o ran oed, cefndiroedd, o ran diwylliant - ond be' sy'n ddifyr ydy fod hi'n amhosib dweud pa un 'di'r un hardd neu cryf yn lot fawr o'r lluniau - a pha un ydy'r un bregus.

Hyd yn oed pan 'da ni ar ein gwana', pan mae lluniau yn cael eu tynnu 'da ni'n reddfol yn creu rhyw fath o facade. Y naratif tu ôl i'r lluniau sy'n datgelu mwy.

Bydd y lluniau Coflaid Cofid yn cael eu arddangos yn Pontio a bydd ffilm fer yn cael ei rhannu dros yr ap Am.

Hefyd o ddiddordeb