Gwleidydd Ceidwadol yn bygwth cyfraith dros ddad-ddethol

  • Cyhoeddwyd
Nick Ramsay
Disgrifiad o’r llun,

Mae deiseb wedi cael ei chreu yn galw am ddad-ddethol Nick Ramsay fel ymgeisydd i'r Senedd

Mae'r gwleidydd Ceidwadol Nick Ramsay yn bygwth ei blaid leol gydag achos llys er mwyn atal ymgais i'w ddad-ddethol.

Bydd aelodau Ceidwadol yn cwrdd yn Nhrefynwy ar 23 Tachwedd i drafod deiseb yn galw iddo gael ei ddad-ddethol fel ymgeisydd i'r Senedd.

Ond mae cyfreithwyr Mr Ramsay yn honni bod y weithred yn "anghyfansoddiadol" a rhybuddiodd y gall aelodau o'r blaid wynebu costau cyfreithiol ac iawndaliadau.

Mae BBC Cymru yn cael ar ddeall bod y gymdeithas yn credu ei fod yn gweithredu o fewn rheolau'r blaid.

Mae'r cyfreithwyr Sanders Witherspoon wedi ysgrifennu dau lythyr yn amlinellu gwrthwynebiad Mr Ramsay i'r broses.

Mae'r llythyr diweddaraf wedi'i ddyddio ar 10 Tachwedd yn dweud bod y cyfreithwyr yn paratoi "am wrandawiad gorchmynnol yn yr Uchaf Lys heb rybudd pellach" a'u bod yn gofyn am enwau a chyfeiriadau er mwyn symud y paratoadau ymlaen.

Mae'n debyg bod y berthynas rhwng yr AS a chymdeithas ei blaid leol wedi bod yn wael ers cryn amser.

Pan ofynnwyd am y berthynas, dywedodd un ffynhonnell "mae'n glir bod yna broblem" pan mae "ymgeisydd yn ceisio erlyn ei gymdeithas gyfan a'n llusgo nhw mewn i'r llys".

Dywedodd y ffynhonnell wrth BBC Cymru nad yw aelodau lleol y blaid yn gallu mynegi eu hochr o'r stori.

Yn gynharach y flwyddyn hon cafodd yr AS ei wahardd o'r blaid ar ôl iddo gael ei arestio ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn. Cafodd ei ryddhau heb unrhyw gyhuddiadau pellach ddeuddydd yn hwyrach.

Ar ôl iddo gymryd camau cyfreithiol, bu'n rhaid i grŵp Ceidwadol y Senedd ei aildderbyn, cyn i'r blaid godi'r gwaharddiad yn hwyrach.

Camau cyfreithiol

Mae'r llythyr cyntaf, sydd wedi'i ddyddio ar 5 Tachwedd ac oedd wedi ei drafod yn wreiddiol yn y Monmouthshire Beacon yn gofyn "pa sail gyfreithiol honedig a mecanwaith cyfreithiol" fyddai'n cael eu defnyddio gan gyfreithwyr Mr Ramsay?

Yn cyhuddo'r gymdeithas o "dorri'r contract" ac o "gyfiawnder naturiol", dywedodd cyfreithwyr Mr Ramsay y bydden nhw'n cael eu cyfarwyddo i geisio am waharddeb os nad oedd y broses yn cael ei chyfiawnhau gan y gyfraith.

Maen nhw hefyd yn hawlio bod aelodau'r gymdeithas yn "yn atebol fel unigolion ar y cyd am unrhyw iawndaliadau sy'n effeithio ar ein cleient yn ogystal â thalu ei gostau cyfreithiol".

Mae'r cyfreithwyr wedi honni hefyd bod "sylwadau difenwol" wedi cael eu gwneud am Mr Ramsay gan aelod yn ystod cyfarfod gweithredol y gymdeithas ym mis Hydref.

Mae cyfreithwyr Mr Ramsay wedi gofyn am "ymddiheuriad a datganiad i gael ei ryddhau i'r wasg yn egluro bod y camau a gafodd eu cymryd yn erbyn eu cleient heb dystiolaeth, yn gamarweiniol a'n achosi dolur personol i'n cleient".

"Dwi wedi cael digon o'r annhegwch a'r clebran maleisus," dywedodd Mr Ramsay.

"Dwi'n bwrw ymlaen gyda'r swydd o gynrychioli fy etholwyr a'u helpu nhw drwy'r heriau mae'r pandemig yn ei greu.

"Rwy'n ofni bod y sefyllfa nawr gyda fy nghyfreithwyr a byddai'n anghywir i fi wneud sylw pellach felly bydd rhaid i chi siarad gyda nhw."

Teimlo 'cywilydd cynyddol'

Yn gynharach ym mis Tachwedd dywedodd ffynhonnell o'r blaid: "Dros y blynyddoedd mae aelodau wedi teimlo cywilydd cynyddol ac wedi eu cythruddo gan ymddygiad Nick ac wedi'u siomi gan ei berfformiad fel eu cynrychiolwr lleol ym Mae Caerdydd."

Mae BBC Cymru yn deall bydd y cyfarfod yn trafod a fydd y ddeiseb yn cael ei derbyn gan aelodau.

Byddai angen cyfarfod pellach i benderfynu a ddylai'r penderfyniad blaenorol gael ei ddadwneud neu beidio i gadw Mr Ramsay fel ymgeisydd.

Mae BBC Cymru wedi gofyn am sylw gan gyfreithwyr Mr Ramsay.