Cynllun fferm wynt arloesol oddi ar arfordir Penfro

  • Cyhoeddwyd
Principle POwerFfynhonnell y llun, Principle POwer

Fe allai fferm wynt gyntaf Cymru sydd yn arnofio ar wyneb y môr gael ei chodi rhyw 45 cilomedr o arfordir Sir Benfro.

Mae'r cwmni ynni Total o Ffrainc yn un o bartneriaid cynllun Erebus i osod rhwng saith a deg o dyrbeini gwynt yn y Môr Celtaidd allai gynhyrchu 96MW o drydan i bweru bron i 90,000 o gartrefi.

Mae cynlluniau tebyg eisoes yn bodoli yn Yr Alban a Phortiwgal.

Y bwriad yw gosod cebl tanddwr o'r tyrbeini yn ôl at y lan yn Aberdaugleddau, cyn cysylltu gyda'r orsaf bŵer ym Mhenfro.

Ffynhonnell y llun, Erebus
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw gosod cebl tanddwr i Aberdaugleddau

Mae cwmni Blue Gem Wind yn fenter ar y cyd rhwng Simple Blue Energy a Total.

Mae Ystâd y Goron eisoes wedi caniatáu prydles gwely'r môr i'r cynllun.

Mae astudiaethau wedi awgrymu y gallai'r Môr Celtaidd gynhyrchu 50GW o drydan drwy ddefnyddio ynni gwynt.

Y gred yw y gallai'r cynlluniau sy'n cynhyrchu'r 1GW cyntaf greu 3,000 o swyddi yng Nghernyw a Chymru erbyn 2030, gyda hwb o £682m i gadwyni cyflenwi.

Dywedodd y Prif Weinidog, Boris Johnson, ei fod am weld Prydain yn cynhyrchu hyd at 1GW o drydan o ffermydd gwynt sydd yn arnofio erbyn 2030.

Mae cwmni Blue Gem newydd lansio ymgynghoriad ar-lein ynglŷn â'u cynlluniau.