Os nad gorsaf niwclear, beth?
- Cyhoeddwyd
Os nad yw'r datblygiad i godi ail orsaf ynni niwclear ar Ynys Môn yn digwydd, beth yw'r opsiynau eraill o ran cynhyrchu trydan ac o ran cynnal yr economi leol?
Yn ôl un o arweinwyr busnes Ynys Môn dydyn nhw ddim wedi bod yn "ddigon clyfar" ar yr ynys i "sylweddoli bod na ffyrdd eraill o greu swyddi" wrth i Hitachi gyhoeddi eu bod yn oedi'r gwaith o adeiladu Wylfa Newydd.
"Rydyn ni wirioneddol angen swyddi," meddai Alun Roberts, cadeirydd Fforwm Busnes Caergybi, mewn trafodaeth ar raglen Taro'r Post, Radio Cymru.
"Ac mae angen datblygiadau eitha' sylweddol i greu'r swyddi i gadw'r bobl leol yma ar yr ynys ac i fagu teuluoedd ac amddiffyn yr iaith Gymraeg."
Roedd y gwaith fyddai wedi dod gyda Wylfa Newydd yn "gyfle unwaith bob cenhedlaeth" i greu'r swyddi da gyda chyflogau uchel sydd eu hangen i greu economi gref, meddai Mr Roberts.
"Prinder swyddi sydd wedi bod yn gyrru y gobaith fod Wylfa Newydd am ateb bob problem, efallai ein bod ni wedi bod ddim yn ddigon clyfar i sylweddoli bod na ffyrdd eraill o greu swyddi hefyd," meddai.
Cadw'r sgiliau ym Môn
Y math o swyddi fyddai wedi eu creu yn y lle cyntaf meddai Mr Roberts fyddai swyddi yn ymwneud ag adeiladu'r pwerdy a swyddi gyda chwmnïau lleol a fyddai wedi cyflenwi gwasanaethau i'r adeiladwyr.
Mae angen manteisio ar y sgiliau sydd wedi eu meithrin yn barod yn Wylfa meddai'r economegydd Dr Edward Jones o brifysgol Bangor:
"Mae'n rhaid inni edrych yn gyflym iawn rŵan ar sut i wneud yn siŵr fod y sgiliau a'r infastructure sydd wedi cael ei ddatblygu fel rhan o'r prosiect yma hyd yn hyn yn cael eu defnyddio ar gyfer prosiectau eraill ar yr ynys a gweld sut allen ni gadw'r sgiliau yna yn Sir Fôn ar hyn o bryd, a gweld be sy'n digwydd efo Wylfa," meddai ar Taro'r Post.
Roedd datblygiad Hitachi yn Wylfa yn dibynnu ar fuddsoddiad gan gwmnïau preifat ac yn ôl Dr Jones mae'r buddsoddwyr yn nerfus am niwclear.
Cododd pris cyfranddaliadau Hitachi 8% pan daeth y sibrydion cyntaf bod y cwmni yn oedi'r gwaith yn y Wylfa, meddai.
"Nath hynny yrru signal clir na tydi'r investors yn Hitachi ddim yn licio niwclear," meddai "... mae investors yn poeni am y costau o adeiladu'r pwerdai yma, mae 'na broblemau efo bob un sydd wedi bod yn ddiweddar, ond hefyd y pris mae'r cwmnïau yn eu cael wedyn am y trydan maen nhw'n ei gynhyrchu."
Er hynny, fe allai rhywbeth ddigwydd gyda'r Wylfa yn y dyfodol ond mae Trysorlys y DG yn "brysur gyda Brexit" ar hyn o bryd felly "mae'n anodd gweld rhywbeth yn digwydd yn y tymor byr" meddai Dr Jones.
Canolbwyntio ar ynni glân?
Yn ôl Gareth Harrison, rheolwr datblygu cwmni ynni cymunedol Cydynni, does ar Gymru ddim angen yr ynni fyddai Wylfa wedi ei gynhyrchu.
"Mae Cymru yn barod yn allforio mwy o ynni na mae hi angen, felly o ran Wylfa, dydi'r angen i gynhyrchu trydan ddim yna yng Nghymru," meddai ar Taro'r Post.
"Mae na ddadl ar lefel Brydeinig efallai ein bod ni angen hi ond, yng Nghymru, rydan ni'n barod efo hen ddigon o drydan.
"Be ydan ni ei angen ydy trydan glân, trydan di-garbon a thrydan heb y gwastraff peryglus sy'n ymwneud â niwclear."
Felly allai'r diwydiant ynni adnewyddadwy gamu i'r bwlch y gallai Wylfa ei adael os nad yw'n cael ei ddatblygu?
Mae 'na botensial ar Ynys Môn i greu ynni glân ar yr arfordir a thrwy wynt a solar, hydro yn yr afonydd a defnyddio gwres o'r tir ac o'r aer ar gyfer gwresogi tai, meddai Gareth Harrison.
Ychwanegodd bod datblygiadau newydd o hyd o ran rheoli ein defnydd o drydan a chynhyrchu mathau newydd o fatris, a cheir newydd.
Meddai: "Fyddwn ni ddim angen niwclear ymhen ryw chwech, saith mlynedd - bydd y system defnyddio trydan yn newid yn sylweddol.
"Mae ynni glan, ynni adnewyddol ar gael heddiw, dani'n gallu gwneud hyn yn sydyn, mae'n gallu digwydd gan gynnwys y cymunedau, dan berchnogaeth pobl leol."
Yn ôl y cynghorydd Aled Morris Jones, mae niwclear yn dal yn "ddarn o'r mics sy'n sicrhau bod gynnon ni drydan yn mynd yn ein blaen i'r dyfodol."
Ond mae datblygiadau ynni eraill eisoes ar y gweill ar yr ynys, meddai Alun Roberts:
"Yng Nghaergybi mae cwmni o Gottenburg yn Sweden sy'n edrych i gynhyrchu trydan o'r llanw, mae gynnoch chi ddatblygiad Morlais hefyd sydd ar y gweill i gynhyrchu trydan yn y môr," meddai.
"Yn y tymor hir rydan ni reit obeithiol y bydd y cyflenwad yna ond ar hyn o bryd y pryder ydi dyfodol ein pobl ifanc ni yn bennaf, ydyn nhw'n mynd i aros yn lleol, ydyn nhw'n mynd i gael gwaith safonol yn lleol?"
Yn ôl yr ymgyrchydd gwrth-niwclear Robat Idris o fudiad PAWB (Pobol Atal Wylfa B) mae angen adolygu polisi ynni llywodraeth Prydain am ei fod wedi ei lunio cyn datblygiadau ynni diweddar a chyn trychineb niwclear Fukushima yn Japan sy'n "rheswm ariannol i edrych ar y peth o'r newydd," meddai.
"Nid problem leol i Sir Fôn ydi hon, ond yn bob man."
Hefyd o ddiddordeb: