Profedigaeth Covid: Teuluoedd yn gofyn am fwy o gymorth
- Cyhoeddwyd
"Fe wnaethant fy ngalw am hanner nos ac o' ni'n gwybod pryd hynny oeddwn i ond yn gallu dweud hwyl fawr."
Pan wnaeth Andrea Williams gyrraedd gwely ei gŵr Mark fe wnaeth hi chwarae cerddoriaeth o'u priodas gan ddweud wrtho ei bod yn amser i gael seibiant.
Roedd Mark yn 58 oed pan fu farw ym mis Ebrill, wythnosau'n unig ar ôl cael ei heintio gyda Covid-19.
Fe wnaeth Andrea rannu ei stori wrth i deuluoedd eraill ofyn am fwy o gefnogaeth yn ystod cyfnod o alaru i'r rhai sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig.
Hyd yma rydym yn gwybod fod 2,142 wedi marw gyda'r haint yng Nghymru, yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ond gyda chyfyngiadau mewn grym i rwystro'r haint rhag ymledu, mae nifer o'r rhai sydd wedi colli anwyliaid wedi bod yn sôn na chawsant gyfle i ddweud ffarwel yn iawn.
Mae doctoriaid hefyd wedi bod yn son am gysuro perthnasau oherwydd nad oeddynt yn gallu bod yn bresennol yn ystod marwolaeth.
Nawr mae grŵp rhithiol wedi ei sefydlu er mwyn caniatáu i deuluoedd roi cefnogaeth i'w gilydd, ac i drafod eu profiadau.
Mae Grŵp Teuluoedd Covid-19 Cymru yn galw am fwy o gwnsela i deuluoedd sydd wedi colli eu hanwyliaid.
"I fi yn bersonol, rwy'n ei gweld yn haws os dwi'n siarad â rhywun sy' wedi colli eu gŵr," meddai Andrea.
Doedd y cwpl ond wedi bod yn briod ers dwy flynedd pan fu farw Mark, darlithydd o Fro Morgannwg, ar Ebrill 25, ar ôl bod ar beiriant anadlu yn yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd.
Dywedodd Andrea ei bod yn gwybod na fyddai neb yn y grŵp yn ei beirniadu pan roedd yn trafod pethau fel mynd a llwch ei gwr i'r gwely gyda hi pan oedd yn methu cysgu.
"Ro' nhw'n gwybod yn union sut o' ni'n teimlo."
Pan fu farw Terry Andrews, nyrs seiciatryddol wedi ymddeol, yn Ysbyty Glan Clwyd ym mis Ebrill, doedd ei deulu ddim yn cael bod wrth ei wely.
Roedd y dyn 79 oed wedi bod yn sâl ers beth amser ac ar beiriant dialysis yn ei gartref am 18 mis. Ond bu farw ar ôl profi'n bositif am coronafeirws.
"Mae'n mynd trwy fy meddwl i nad oeddwn yna ar ei gyfer, ro' ni o hyd wedi bod yna ar ei gyfer," meddai ei ferch Samantha Andrews-Pierce.
Dywedodd Mrs Andrews-Pierce, o Ddinbych, ei bod yn cael cysur gan y grŵp gan ei bod wedi ei chael yn anodd dod i dermau gyda'r ffaith nad oedd wedi gallu dweud ffarwel wrth ei thad oherwydd y cyfyngiadau.
"Roedd yna ddeg yn yr angladd, doedd ddim hawl gennym ni i eistedd gyda'n mam," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cydymdeimlo o waelod calon gyda phawb sydd wedi colli anwyliaid.
"Rydym wedi darparu £900,000 i wasanaethau hosbis a gwasanaethau cwnsela er mwyn cynyddu'r gefnogaeth sydd ar gael yn ystod y cyfnod anodd yma," meddai'r llefarydd.
"Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad yn gynharach eleni fod Llywodraeth Cymru yn rhoi £1m ar gyfer cefnogaeth yn ystod profedigaeth o Ebrill 2021. "
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2020