Plant Mewn Angen: Lowri Legend, y seren bop newydd

  • Cyhoeddwyd
Lowri Legend

Y llynedd, fe gafodd £2.3 miliwn ei godi yng Nghymru ar gyfer apêl Plant Mewn Angen, ac un ferch ifanc a gafodd fudd o beth o'r arian yma yw Lowri.

Cafodd Lowri fod yn rhan o brosiect arbennig gan Gwmni'r Frân Wen, a gafodd ei ariannu gan Plant Mewn Angen, a nawr mae ganddi gân newydd wedi ei recordio gyda Casi Wyn fel prawf!

Mae Lowri Legend, fel mae hi'n galw ei hun, yn 16 oed ac yn byw ym Molfre, Ynys Môn. Mae hi wrth ei bodd gyda cherddoriaeth a chanu, ond mae hi wedi gorfod brwydro trafferthion iechyd yn ystod ei bywyd.

Pan oedd hi'n yn wyth mis oed, sylweddolodd meddygon fod ganddi wendid yng nghyhyrau ei chefn, ac fe gafodd ei mam, Mary, ei rhybuddio efallai na fyddai Lowri byth yn cerdded.

Ond yn dilyn misoedd ar fisoedd o waith caled a dyfalbarhad, erbyn iddi fod yn 26 mis oed, roedd Lowri'n cerdded.

Fodd bynnag, oherwydd ei bod hefyd yn dioddef o'r cyflwr hypermobility, mae cymalau ei thraed a'i phengliniau yn medru bod yn boenus ar adegau. Bu'n rhaid iddi hefyd gael therapi lleferydd am nad oedd hi'n siarad llawer pan oedd hi'n iau.

Disgrifiad,

GWYLIWCH: Aled Hughes, BBC Radio Cymru, yn cwrdd â Lowri a'i mam, Mary

Ond yn ôl Mary, er nad ydi meddwl Lowri yn datblygu mor gyflym â phobl ifanc eraill ei hoed hi, mae hi'n medru 'dweud ei dweud yn iawn'.

"Mae Lowri yn hogan sydd wedi bod trwy lot," meddai. "Ond mae Lowri yn haul yn fy mywyd i a mae hi'n dod â hapusrwydd i bawb mae hi'n weld, achos mae ganddi hi galon fawr ac mae hi'n gwneud unrhyw beth i rywun."

Profiad bythgofiadwy

Cafodd Lowri y newyddion da ei bod hi wedi cael ei dewis i fod yn rhan o brosiect Llwybrau Llachar gyda Chwmni'r Frân Wen sydd â'r bwriad o godi hyder a datgelu talentau cudd pobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol, gan ddatblygu artistiaid ifanc y dyfodol.

Fel nifer, roedd Lowri wedi bod yn hiraethu am bobl nad oedd hi wedi cael eu gweld yn ystod y cyfnod clo - yn arbennig ei nain. Felly fel rhan o'r prosiect, cafodd y cyfle i ysgrifennu a recordio cân am ei theimladau gyda'r gantores Casi Wyn.

Roedd Lowri wrth ei bodd ei bod hi wedi cael y cyfle i gymryd rhan mewn prosiect o'r fath, ac yn amlwg wedi cael hwyl wrth wneud.

"Dwi wedi ecseitio gwneud cân a dawnsio," meddai. "Dwi wedi hoffi g'neud prosiect tydw i erioed wedi g'neud o'r blaen."

Ffynhonnell y llun, Cwmni'r Frân Wen
Disgrifiad o’r llun,

Bu Casi a Lowri yn cydweithio ar y gân newydd dros y we

Mae Mary yn ddiolchgar iawn i Gwmni'r Frân Wen a Plant Mewn Angen am y profiad bythgofiadwy gafodd ei merch, a'r cyfle gafodd i gael mynegi ei theimladau a chael her greadigol - profiad na fyddai wedi ei gael fel arall, meddai.

"Mae'n gwneud i Lowri deimlo'n hapus, achos mae cerdd yn 'neud iddi wenu ac mae'n dod â'i hochr greadigol allan.

"Mae'n gwneud i mi fod yn prowd o weld rhywun fel Lowri yn cael siawns i fod yn rhan o'r gymuned a gwneud rhywbeth sbesial ei hun hefyd."

Hefyd o ddiddordeb: