Taith Geth a Ger i chwilio am ysbrydion Castell Gwrych
- Cyhoeddwyd
Oes gan Gethin Evans a Geraint Iwan gyngor ysbrydol i selebs rhaglen I'm a Celebrity...Get Me Out of Here! sy'n treulio'u dyddiau a'u nosweithiau tywyll yng Nghastell Gwrych ar y funud?
Aeth y cyflwynwyr Radio Cymru i chwilio am yr ysbrydion mae'r castell yn enwog amdanyn nhw efo'r ysbrydegwr a'r bardd Elwyn Edwards ar noson Galan Gaeaf yn 2016 gan ddarlledu Codi Gwrych Geth a Ger yn fyw o'r castell, gyda chamera yn ffilmio'r noson yr un pryd.
Mae Elwyn Edwards yn credu ei fod yn gallu cysylltu gydag ysbrydion ac fe ddywedodd ei fod yn teimlo sawl ysbryd yn y castell ar y noson honno, gan gynnwys hen ŵr o'r enw Dafydd Jones a dyn blin oedd yn byw yn un o'r 'stafelloedd.
Mae straeon lleol am ddynes mewn gwyn yn crwydro'r lle ac am ysbrydion eraill.
"Y rheswm oeddan ni yna oedd am fy mod i 'di ymchwilio a 'di holi gymaint o bobl ag o'n i'n gallu am y llefydd gorau i fynd ac roedd Castell Gwrych yn ail ar y rhestr o lefydd mwya' haunted yng ngogledd Cymru," meddai Geraint Iwan.
"Yn ôl pobl sy'n deud eu bod nhw'n gallu siarad efo ysbrydion, dyna lle oedd y mwyaf o reports o bethau'n digwydd a lle oedd pobl yn mynd yn aml i wneud seances a chyfarfod ysbrydion a siarad efo nhw."
Fedri di ddeall bod pobl yn dychmygu bod nhw'n gweld pethau...
Gweld pethau
Dydi'r ddau gyflwynydd ddim yn credu mewn ysbrydion er i ambell foment godi ofn arnyn nhw.
"Mae 'na un ochr iddo fo sydd jyst yn hen gastell fel Castell Caernarfon neu Harlech neu Aberystwyth a doedd dim un ohonan ni yn teimlo dim byd o gwbl yno, er fod Elwyn yn dweud bod 'na rai o gwmpas," meddai Geraint Iwan.
"Yr ochr arall oedd y mwya' sbwci achos yno mae 'na'n dal 'stafelloedd a goleuadau a dodrefn. Yr ochr hen adeilad sy'n dal efo olion pobl, fedri di ddeall bod pobl yn dychmygu bod nhw'n gweld pethau fanna."
"Mae unrhyw sefyllfa lle ti'n eistedd mewn basement mewn castell tywyll efo'r goleuadau i ffwrdd a mae 'na rywun yn deud wrthat ti bod nhw'n siarad efo ysbryd, boed ti'n coelio neu beidio, dio ddim yn sefyllfa sydd ddim yn sgeri," meddai.
'Drws ysbrydion' yn y goedwig
"Hefyd roedd Elwyn wedi dweud bod portal enwog yn y goedwig tu ôl i'r castell a'r portal yna yn ôl y sôn oedd y drws i mewn ac allan o'r byd arall ac roedd yr ysbrydion i gyd yn dod o hwnnw.
"So wnaeth y cynhyrchydd gael y syniad grêt o ngyrru fi i mewn i'r goedwig efo meicroffon heb dortsh i drio gweld y portal neu glywed pobl yn camu mewn ac allan ohono fo. Roedd Elwyn wedi deud bod 'na lot o blant yn rhedeg nôl a mlaen.
"Doedd hynny ddim yn teimlo'n grêt.
"Fyswn i ddim yn synnu na fanna fysan nhw'n neud eu trials achos yn y cefn oedd y darnau gorau - fanna fysat ti'n adeiladu set a ballu. Lle bynnag fyddan nhw'n bwyta eu bwydydd afiach, ella mai fanna o'n i'n sefyll ar ben fy hun yn y nos yn chwilio am portal!"
'Sianelu' ysbryd
Mae Gethin Evans hefyd yn sgeptig pan mae'n dod i ysbrydion.
"Dwi ddim yn coelio mewn ysbrydion ond wedi dweud hynna, mewn hen gastell a dim golau a ti yna efo medium sy'n deud ei fod yn gallu siarad efo gosts... 'nath o 'neud i fi dowtio'n hun am eiliad!" meddai.
"Am wn i bod unrhyw gastell ganol y nos yn eitha' sbwci.
"Oedd 'na lot o'r castell oeddat ti ddim yn gallu mynd ato fo, oeddan nhw wedi cau lot i ffwrdd, o'r hynny o luniau dwi wedi ei weld mae'n edrych 'fatha lle hollol wahanol.
"Y 'stafell lle wnaeth Elwyn sianelu ysbryd oedd yr unig 'stafell oeddan ni'n gallu ei ddefnyddio.
"Ond 'nath o neud i fi gredu llai! Be wnaeth o rili oedd gwneud i fi feddwl mod i'n trystio llai ar bobl nag ydw i ar gosts; mae gen i ofn bod person yn mynd i'n lladd i nid gost.
"Fyswn i'n hollol iawn yn cysgu yno yn enwedig efo llwyth o gameras, mae o hyd yn oed yn fwy saff."
Lle 'reit neis' i aros
Mae Geraint yn cytuno: "Dio'n bendant ddim yn lle rhy ddrwg i aros, i gymharu efo fel arfer pan maen nhw mewn jyngl yn Awstralia, 'swn i'n meddwl bod o'n lyfli o le i fynd am chydig wythnosau.
"Yn y darn lle maen nhw - mae'n edrych felly i fi - ydi'r darn oeddan ni ynddo fo rhan fwya' o'r noson a mae'r darn yna reit neis."
Cyngor Geraint
Ac mae gan Geraint gyngor i'r cystadleuwyr os oes ganddyn nhw ofn ysbrydion yn yr hen gastell: "Os ydyn nhw'n ofn gosts, be 'swn i'n ddweud ydy, os ydyn nhw'n dweud bod nhw ddim yn coelio ynddyn nhw, mae gosts yn anwybyddu nhw.
"Dwi'm isho galw gosts yn fabïedd ond oedd Elwyn yn deud bod nhw'n gwrthod siarad efo Geth a fi achos bod ni ddim yn coelio ynddyn nhw! Oedd o'n amlwg o'r eiliad cyntaf wnaethon ni gerdded i mewn fod Geth a fi ddim yn coelio mae'n debyg, a dyna pam oedd yr ysbryd yn gwrthod dod i siarad efo ni.
"Felly jyst deud wrthyn nhw bod ti ddim yn coelio ynddyn nhw a fyddwch chi'n iawn!"
A beth am y lle oedd ar dop y rhestr o lefydd mwyaf brawychus gogledd Cymru?
"Swyddfeydd y Cyngor Sir yng Nghaernarfon oedd ar dop y rhestr bob tro," meddai Geraint Iwan.
"Mae hanner y swyddfeydd yn yr hen gelloedd a'r cwrt, felly roedd 'na lot o bobl yn ôl y sôn wedi marw yn y celloedd... a hefyd lle maen nhw'n cadw beics y cyngor, fanna roeddan nhw'n hongian pobl ers talwm ac yn lluchio'r cyrff dros y wal lle mae [tafarn yr] Anglesey.
"Mae'r ardal yna i gyd yn haunted, yn ôl y sôn."
Hefyd o ddiddordeb:
Wyddoch chi hyn am gastell I'm a Celebrity?, dolen allanol (Facebook - nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol)