'Cwmni ysbrydol' i sêr cyfres 'I'm a Celebrity'

  • Cyhoeddwyd
Castell GwrychFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych

Fe fydd ysbryd yn cadw cwmni i sêr cyfres 'I'm a Celebrity' yng Nghastell Gwrych ger Abergele medd pobl yr ardal.

Mae'r sioe yn symud o jyngl Awstralia i'r castell yn Abergele eleni - gydag enwau y gwersyllwyr yn cael eu datgelu y penwythnos yma.

Ond mae pobl leol yn honni bod y castell yn cynnwys ysbryd - a rhai wedi gweld "dynes mewn gwyn" yno.

Dywedodd cyn-Farchog Gwrych y byddai noson yn y castell yn gwneud i unrhyw seren weiddi: "Get Me Out of Here!"

Bydd pob un o'r 12 gwersyllwr yn cael eu datgelu mewn rhaglen arbennig ar ITV ddydd Sul, cyn iddyn nhw fynd i'r gogledd i ddechrau ffilmio ar 15 Tachwedd.

Mae pobl Abergele wedi bod yn addurno eu cartrefi a'u strydoedd i gyfarch y cast a'r criw yn barod.

Ffynhonnell y llun, Christopher Furlong / Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ffenest bwyty yn Abergele wedi ei addurno ar gyfer croesawu'r gyfres i'r dref

Ond unwaith y tu mewn i'r castell, gallai droi ychydig yn hunllefus i'r enwogion fydd yn cymryd rhan.

Gweithiodd Graham Jones, 68, tad i bump a thaid i 10, sy'n byw ger Abergele, fel Marchog Gwrych ar gyfer ail-greu brwydrau yn y castell o'r 1970au i ddechrau'r 90au.

"Fe wnes i sioe bob dydd heblaw dydd Sadwrn a byddai'r enillydd yn cael Cleddyf Gwrych - ond wnes i erioed ei hennill," meddai.

Dywedodd y cyn-farchog ei fod ef a'i ffrindiau wedi bod yn dyst i rai ysbrydion yn y castell dros y blynyddoedd.

"Mae pobl wedi dweud bod dynes mewn gwyn wedi'i gweld yn marchogaeth o gwmpas," meddai.

Ffynhonnell y llun, Graham Jones
Disgrifiad o’r llun,

Graham Jones (mewn glas) yng ngwisg Marchog Gwrych

"Roedd fy ffrind Steve yn gweithio fel swyddog diogelwch yn y castell ac unwaith neu ddwy fe aeth i mewn i'r gegin i lawr rhai grisiau a chlywed rhywun y tu ôl iddo - fe allai deimlo eu hanadl ar gefn ei wddf. Ond doedd neb yno."

Cafodd Mr Jones brofiad anesboniadwy ei hun yn y castell, yn dilyn ail-greu brwydr gyda'i frawd a'i ffrind un penwythnos.

"Ar ôl y sioe warchae, gofynnodd rheolwr y castell i mi osod polyn baner ar y to. Es i fyny i'w wneud, allan trwy ddrws bach yn y to ac roedd hen fenyw yn eistedd ar y llawr," meddai.

"Fe wnaeth hi weiddi 'Allwch chi ddim mynd y ffordd yma!' felly es i y ffordd arall a rhywsut fe gyrhaeddodd hi o fy mlaen. Daliodd ati i ddweud 'Nid ydych chi'n cael mynd i fyny yma!'.

"Pan gyrhaeddais yn ôl, gofynnais i'r rheolwr am yr hen wraig a dywedodd 'Pa hen wraig?'."

Yn ddiweddarach fe wnaeth Mr Jones adnabod y ddynes mewn hen lun o gyn-staff y castell - a fyddai wedi marw ymhell cyn iddo ddod ar ei thraws ar do'r castell.

Ffynhonnell y llun, Graham Jones
Disgrifiad o’r llun,

Llun o'r ddynes yr oedd Mr Jones wedi ei gweld ar do'r castell

Nid dim ond gweld ysbryd wnaeth Mr Jones.

"Roeddwn i yn y castell un noson gyda chriw o'r hogiau a dechreuon ni geisio dychryn ein gilydd ar ôl ychydig o ddiodydd," meddai.

"Penderfynais gerdded yn ôl i gartref fy mam a dechrau cerdded ar hyd y lôn. Roeddwn i'n gallu clywed sŵn ceffyl y tu ôl i mi ond pan edrychais nid oedd na unrhyw beth yno.

"Roeddwn i'n gallu clywed carnau'r ceffylau yn taro'r ffordd a'r ceffyl yn ffroeni. Roeddwn i'n gallu clywed yr atsain yn erbyn wal."

Pan ofynnwyd iddo a fyddai awydd ymuno â'r enwogion yn eu cartref newydd, dywedodd Mr Jones: "Wnes i erioed aros yn y castell eto ac ni fyddaf byth yn gwneud!

"Y cwrt lle maen nhw'n aros yw lle mae'r mwyafrif o bobl wedi cael profiad. Os ydyn nhw'n ei gael yn unrhyw le, fe fydd yn digwydd yno."

Wrth drafod cyffro'r dref cyn ffilmio, dywedodd Mr Jones: "Mae'n dda i Abergele. Mae'r dref wedi cael cystadlaethau i addurno'r ffenestri gorau...fe fydd croeso iddyn nhw yma yn Abergele."

Ffynhonnell y llun, Christopher Furlong / Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Arwydd o groeso yn Abergele i enwogion a chriw'r gyfres boblogaidd