Beiciwr modur yn marw wedi gwrthdrawiad yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Debbie Anne RodgersFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Debbie Anne Rodgers yn deithiwr brwd, yn ôl ei theulu

Mae menyw 41 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Benfro brynhawn Gwener.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A487 tua 15:50 ym mhentref Felindre Farchog, ger Eglwyswrw wedi gwrthdrawiad rhwng beic modur Yahama 125cc a char Vauxhall Astra.

Bu farw'r beiciwr modur, Debbie Anne Rodgers, oedd yn byw ym mhentref Dinas, yn y fan a'r lle.

Mae ei theulu wedi cyhoeddi neges yn ei disgrifio fel "merch, chwaer, modryb, nith, cyfnither a chyfaill" ac "ein teithiwr annibynnol hardd" oedd "wastad yn trefnu ei thaith nesaf".

Ychwanega'r datganiad: "Hed yn fry.... nid oes angen pasbort ar gyfer hon, dy siwrne olaf."

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth a lluniau dash cam gan unrhyw un oedd yn yr ardal o gwmpas adeg y gwrthdrawiad.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ym mhentref Felindre Farchog