Ambiwlans yn cael ei ddwyn wrth i'r criw drin claf

  • Cyhoeddwyd
Ambulance

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n ymchwilio wedi i ambiwlans gael ei ddwyn a'i adael wedi'i ddifrodi yn Sir Y Fflint.

Cafodd y cerbyd ei gymryd yn ardal Shotton am 22:00 nos Sadwrn wrth i griw drin claf yn eu cartref.

Fe yrrodd y gwasanaeth ambiwlans gerbyd arall heb oedi at y criw, a chafodd yr achos ei hysbysu i'r Heddlu.

Daeth plismyn o hyd i'r ambiwlans yn fuan wedi hynny, yn Dee View Crescent.

'Hollol anghyfrifol'

"Mae dwyn ambiwlans brys yn weithred hollol anghyfrifol, gan roi cleifion a'r cyhoedd mewn perygl," meddai Bob Tooby, Cyfarwyddwr Gweithredu Cynorthwyol gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

"Pe tasai'r criw wedi bod angen cael offer brys ychwanegol o'r cerbyd, neu i fynd â'r claf ar frys i'r ysbyty, fe allai hyn fod wedi arwain at niwed difrifol iawn.

Ychwanegodd Mr Tooby: "Mae ein gwasanaethau wedi bod yn eithriadol o brysur yn delio gyda phwysau'r gaeaf, yn ogystal â heriau'r pandemig.

"Mae hwn yn ddigwyddiad prin eithriadol, ond mae'n cael ei drin yn ddifrifol iawn."

Dywedodd yr heddlu bod yr achos "wedi gadael y gwasanaeth ambiwlans gydag un adnodd brys yn llai gan, yn y pen draw, roi bywydau pobl mewn perygl".

Mae'r llu a'r gwasanaeth ambiwlans yn apelio i'r cyhoedd am wybodaeth, ac mae'r cerbyd yn cael ei archwilio gan arbenigwyr fforensig.