Arestio chwe dyn dros ymgais honedig i herwgipio
- Cyhoeddwyd
Mae chwe dyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o herwgipio yn Sir Gaerfyrddin.
Dywed Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi derbyn galwadau gan y cyhoedd brynhawn Sadwrn mewn cysylltiad â digwyddiad yn Heol yr Orsaf, yn Llanelli.
Cafodd car ei stopio yn fuan wedi hynny yn ardal Trostre, ac fe gafodd chwe pherson oedd yn y car eu harestio.
Mae'r chwech yn y ddalfa, ac mae'r dioddefwr tebygol yn "ddiogel ac yn iach".
"Am oddeutu 13:30 ddydd Sadwrn, fe gawson ni adroddiadau gan y cyhoedd o herwgipiad posib yn Heol yr Orsaf," meddai'r Prif Arolygydd Chris Neve.
"Cafodd ymchwiliad brys ei ddechrau, arweiniodd at stopio cerbyd yn ardal Trostre, ac arestio'r chwe dyn ynddo.
"Mae dyn sydd wedi ei nodi fel y dioddefwr posib yn ddiogel ac yn iach."
Dywed y llu nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae swyddogion yn patrolio'r ardal ddydd Sul er mwyn tawelu unrhyw ofnau o fewn y gymuned leol.
Ychwanegodd y Prif Arolygydd Neve: "Rwy'n deall y gallai'r cyhoedd fod yn bryderus oherwydd y digwyddiad yma. Ond hoffwn sicrhau cymuned Llanelli ei fod ond yn berthnasol i'r rhai sydd ynghlwm ag e a does dim risg i unrhyw un arall ar y foment yma."