Pryderon am amddiffynfeydd llifogydd yn Sir Conwy

  • Cyhoeddwyd
AmddiffynfeyddFfynhonnell y llun, Cyngor Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o welliannau wedi cael eu gwneud i'r promenâd yn Hen Old Colwyn

Mae amddiffynfeydd llifogydd yn Sir Conwy mewn perygl o "fethiant trychinebus", er gwaethaf gwaith i'w hatgyfnerthu.

Cafodd gwelliannau rhannol i'r morglawdd yn Hen Golwyn eu cwblhau eleni, ond mae un o ddogfennau'r cyngor yn dweud y bydd risg "uchel" nes bod cynlluniau ehangach gwerth £34m yn cael eu gwireddu'n llawn.

Dywedodd dau gynghorydd lleol mai "ateb dros dro" yw'r gwaith diweddar, er eu bod yn ei groesawu.

Ar ran Llywodraeth Cymru dywedodd llefarydd: "Ry'n wedi neilltuo £6m i Gyngor Conwy yn ystod y flwyddyn ariannol yma ar gyfer y cynllun.

"O ran y rhannau hynny nad oes gwaith yn cael ei wneud arnynt, mae'r awdurdod lleol wedi ymrwymo i gadw golwg fanylach ac i edrych ar y wal wedi pob storm."

Dyluniadau manwl

Rhoddodd y llywodraeth £1.6m i wella'r amddiffynfeydd y llynedd, yn ogystal â £6.075m ychwanegol o'u Cronfa Ffyrdd Cydnerth ym mis Mehefin eleni. Bydd y cyllid diweddaraf yn cael ei ddefnyddio i atgyfnerthu rhannau gwanaf y morglawdd a gwella mynediad i'r traeth.

Er hynny, mae'r peryglon yn parhau, yn ôl diweddariad o'r sefyllfa a rannwyd gydag aelodau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych, sy'n cyfarfod ddydd Llun.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y stormydd effaith andwyol ar yr amddiffynfeydd yn 2017

Yn ôl y ddogfen a gafodd ei llunio ym mis Awst, "mae yna nifer o rannau eraill lle mae'r amddiffynfeydd mewn perygl o fethu".

"Hyd nes bydd y cynllun wedi'i orffen yn iawn mae'r perygl o fethiant trychinebus yn parhau'n uchel," meddai'r adroddiad.

"I'r perwyl hwn rydym ni'n parhau i drafod dewisiadau ariannu posibl gyda Llywodraeth Cymru i ddiogelu'r cyllid sydd ei angen i gwblhau'r cynllun."

Bydd dyluniad manwl y prosiect hwnnw, fydd yn trawsnewid ardal o 1.2km ar hyd yr arfordir, yn cael ei ddatgelu maes o law.

Mae'r cyfanswm o £34m yn cynnwys gwaith sydd wedi ei gwblhau'n barod, ac mae rhywfaint o gyllid ychwanegol wedi ei sicrhau ar ei gyfer.

'Ateb dros dro'

Mae'r cynghorwyr Cheryl Carlisle a Brian Cossey, sy'n cynrychioli ward Colwyn ar Gyngor Conwy, yn "bles" gyda buddsoddiad y llywodraeth hyd yma, ond maen nhw'n credu fod "rhaid ei ystyried fel ateb dros dro i'r broblem ehangach".

Gall fod "goblygiadau trychinebus" pe bai'r morglawdd yn methu, meddai'r ddau, gan ychwanegu bod angen gwireddu'r cynllun llawn gwerth £34m.

"Bydd hynny nid yn unig yn amddiffyn y promenâd a'i ffordd, ond hefyd prif bibell carthffosiaeth Dŵr Cymru, prif lein y rheilffordd i Gaergybi a ffordd yr A55.

"Byddai'r rheiny i gyd mewn perygl pe bai'r amddiffynfeydd presennol yn methu."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Fe ailagorodd promenâd Hen Golwyn ym mis Gorffennaf 2020 wedi i waith gael ei gwblhau

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Conwy fod yr awdurdod yn "gweithio gyda Dŵr Cymru" i sicrhau cyllid pellach ac yn edrych i gydweithio gyda phartneriaid eraill yn ogystal.

Ychwanegodd ei bod hi'n debygol y bydd y cynllun llawn yn cael ei gwblhau mewn sawl cam llai "achos maint y prosiect", tra bod y broses dendro ar gyfer cam nesaf y gwelliannau wedi cychwyn.

Bydd y rhain, ynghyd â'r cynllun cyfan, yn cael eu cyflwyno i'r cyhoedd "maes o law" mewn "digwyddiad rhannu gwybodaeth.