Plaid yn galw am gefnogaeth i ardaloedd sydd â mwy o achosion
- Cyhoeddwyd
Dylai trigolion mewn ardaloedd sydd â'r lefelau uchaf o coronafeirws yng Nghymru gael taliad hunan-ynysu uwch o £800, yn ôl Plaid Cymru.
Mae'r blaid yn galw am becyn o fesurau ychwanegol i ardaloedd ôl-ddiwydiannol fel Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf, sydd â'r achosion uchaf o Covid-19.
Dylai'r ardaloedd hynny, medd y blaid, fod yn cael blaenoriaeth mewn unrhyw gynllun profi cymuned gyfan, gydag adnoddau ychwanegol i gefnogi timoedd profi ac olrhain achosion.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod "mesurau cenedlaethol yn eu lle" a'i bod wedi rhoi "£15.7m ychwanegol tuag at bron i ddyblu y gweithlu olrhain achosion".
'Gallu fforddio aros adref'
Bydd Plaid Cymru yn gwneud yr achos dros 'Ardaloedd Cefnogaeth Covid Arbennig' mewn dadl yn y Senedd ddydd Mercher, gan ddweud bod ymchwil o ogledd Lloegr yn awgrymu bod cymunedau ôl-ddiwydiannol yn cael eu heffeithio'n waeth nag eraill gan y feirws.
Mae cynlluniau profi cymuned gyfan a phrofi pobl heb symptomau yn rhan o'r pecyn y mae Plaid Cymru eisiau ei weld yn yr ardaloedd sydd wedi eu taro waethaf gan y feirws yng Nghymru.
Yr wythnos ddiwethaf fe ddywedodd Mark Drakeford y byddai "cynllunwyr milwrol" yn ymuno â thîm dan arweiniad Bwrdd Iechyd Cwm Taf Bro Morgannwg, law yn llaw â Chyngor Merthyr Tudful, i edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno profion cyson i bawb yn nhref Merthyr, yn debyg i'r hyn sy'n cael ei dreialu yn Lerpwl ar hyn o bryd.
Yn ôl AS Plaid Cymru dros y Rhondda, Leanne Wood, mae angen "cefnogaeth ychwanegol ar bobl sy'n glinigol fregus, sy'n methu gweithio o adref, ond sy'n byw a gweithio mewn ardaloedd lle mae lefel trosglwyddiad Covid-19 yn uchel".
"Mae rhannau o'n hardaloedd ôl-ddiwydiannol ni wedi bod â lefelau cyson uchel o'r feirws, gan gynnwys fy etholaeth fy hun," meddai.
"Ni ddylai pobl sy'n methu gweithio o adre ond sy'n glinigol fregus gael eu rhoi yn y sefyllfa lle maen nhw'n gorfod dewis rhwng y risg i'w hiechyd nhw a rhoi bwyd ar y bwrdd.
"Mae'r rhain yn fesurau ychwanegol fyddai'n gallu helpu pawb yn yr ardal - gallai ardaloedd o gefnogaeth arbennig gael blaenoriaeth awtomatig ar gyfer rhaglen eang o brofion a chael mynediad cynt i unrhyw frechlyn.
"Gallai grantiau hunan-ynysu gael eu codi i £800 er mwyn gwneud siŵr bod pobl clinigol fregus yn gallu fforddio aros adref ac aros yn ddiogel.
"Mae'n glir o'r lefelau uchel o ledaeniad coronafeirws fod angen delio â hyn mewn ffordd newydd."
'Pecyn eang o fesurau mewn lle'
Mae Plaid Cymru yn galw am 13 mesur fel rhan o'r pecyn i daclo'r feirws, gan gynnwys gorfodi pobl i wasgaru o ganol trefi ar ôl i dafarnau gau, darparu llety i unrhyw un sy'n methu hunan-ynysu adref yn ddiogel, a mwy o gefnogaeth i fusnesau er mwyn iddyn nhw allu cau yn wirfoddol dros-dro.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw "wedi rhoi pecyn eang o fesurau cenedlaethol yn eu lle er mwyn ymateb i bandemig Covid-19, a'r nod o helpu ardaloedd lle mae lefelau uchel o achosion yn ogystal ag ardaloedd eraill ar draws Cymru".
"Yn fwyaf diweddar, fe gyhoeddodd y Gweinidog Iechyd £15.7m ychwanegol tuag at bron i ddyblu y gweithlu olrhain achosion yng Nghymru at y gaeaf," meddai.
"Rydyn ni'n parhau i adolygu cyfraddau lledaeniad y feirws yn gyson ar draws Cymru, o ystyried lefel uchel yr achosion mewn rhai ardaloedd, ac ni fyddwn ni'n oedi cyn cymryd unrhyw gamau sydd eu hangen i gadw Cymru yn ddiogel."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2020