Dros 3,000 wedi marw â Covid-19 yng Nghymru, medd yr ONS
- Cyhoeddwyd
Mae dros 3,000 o farwolaethau sy'n ymwneud â Covid-19 wedi cael eu cofnodi yng Nghymru bellach, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Yn yr wythnos hyd at 6 Tachwedd cafodd 166 o farwolaethau'n ymwneud â coronafeirws eu cofnodi yng Nghymru.
Roedd cyfanswm y marwolaethau yn yr wythnos honno draean yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer yr adeg yma o'r flwyddyn.
Roedd 20% o'r holl farwolaethau yr wythnos honno yng Nghymru yn ymwneud â Covid-19.
Yn eu datganiad dyddiol cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 705 o achosion newydd o Covid-19 ddydd Mawrth, a bod 34 marwolaeth y credir eu bod yn gysylltiedig â'r feirws.
53 marwolaeth yn ysbytai Cwm Taf Morgannwg
Roedd y 166 o farwolaethau yn gynnydd o 45 o'i gymharu â'r wythnos flaenorol.
Cafodd 62 o farwolaethau eu cofnodi yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg - 53 o'r rheiny mewn ysbytai.
Roedd 49 o farwolaethau ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan, 24 ym Mae Abertawe, a 12 yr un yng Nghaerdydd a'r Fro a Betsi Cadwaladr.
Bu farw pump o bobl yn ardal Hywel Dda, a dau ym Mhowys.
Mae'r ffigyrau'n dangos:
Bod cyfanswm o 3,050 o farwolaethau'n ymwneud â Covid-19 wedi cael eu cofnodi a'u cofrestru yng Nghymru hyd at 6 Tachwedd;
Bod Rhondda Cynon Taf (433 o farwolaethau) wedi pasio Caerdydd (430) o ran y sir sydd â'r nifer uchaf o farwolaethau coronafeirws;
Y bu 23 o farwolaethau sydd un ai wedi'u cadarnhau neu sy'n cael eu hamau o fod yn gysylltiedig â Covid-19 mewn cartrefi gofal yn yr wythnos honno - y ffigwr uchaf am bum mis.
Rhondda Cynon Taf - pan yn ystyried maint y boblogaeth - sydd â'r drydedd gyfradd uchaf o farwolaethau trwy Gymru a Lloegr - 180 o farwolaethau ar gyfer pob 100,000 o bobl.
Mae Merthyr Tudful bellach ymysg y 10 uchaf hefyd.
Mae'r marwolaethau sy'n cael eu cofnodi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnwys rheiny sydd wedi'u cadarnhau o gael Covid-19, neu pan fo meddygon yn amau bod y farwolaeth yn ymwneud â'r haint.
Yn yr wythnos hyd at 6 Tachwedd cafodd 1,771 o farwolaethau coronafeirws eu cofnodi yn Lloegr, 206 yn Yr Alban ac 82 yng Ngogledd Iwerddon.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2020