AS yn ceisio gwella cyfradd goroesi ataliad ar y galon

  • Cyhoeddwyd
Alun DaviesFfynhonnell y llun, Labour Party
Disgrifiad o’r llun,

Bu Alun Davies yn Aelod o'r Senedd ers 2007

"Heblaw amdanyn nhw, fyddai popeth ar ben."

Dyna sut y mae Alun Davies AS yn disgrifio'i deimladau tuag at ei ffrindiau Thoma a Mike Powell wedi iddyn nhw achub ei fywyd yn gynharach eleni pan gafodd ataliad ar y galon wrth redeg yng nghaeau Llandaf, Caerdydd.

"Byddai fy mhlant wedi colli'u tad... mae arna'i bron bopeth iddyn nhw."

I'r rhai sy'n diodde' ataliad ar y galon y tu allan i ysbytai yng Nghymru, yr amcangyfrif yw mai dim ond rhwng 3-5% sy'n goroesi.

Dywedodd Mr Davies na chafodd unrhyw rybudd bod unrhyw beth o'i le, a'i fod "yn rhedeg yn rhwydd drwy'r parc, gweld ffrindiau a stopio i ddweud helo".

"Y peth nesa dwi'n gofio yw cael fy rhoi mewn ambiwlans."

Dywedodd Thomas Powell, a fu'n ddeintydd am 33 mlynedd gan gael hyfforddiant ar dechneg CPR a sut i ddefnyddio diffibriliwr, y dylai hynny "fod yn rhywbeth sylfaenol y mae pawb yn gwybod".

Wrth ddisgrifio'r digwyddiad, dywedodd fod Mr Davies yn siarad gyda hi a'i gŵr Mike pan ddisgynnodd.

"Fe wnes i droi e drosodd ac roedd yn hollol anymwybodol... doedd e ddim yn symud a doedd dim pyls."

Dechreuodd hi geisio'i adfywio tra bod person arall yn ffonio am ambiwlans, ac fe aeth person arall i nôl diffibriliwr o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd gerllaw.

Ffynhonnell y llun, Geograph/ Colin Park
Disgrifiad o’r llun,

Fe gwympodd Alun Davies wrth redeg ym Mharc Biwt yng Nghaerdydd

Pan aeth i Ysbyty Athrofaol Cymru, cafodd Mr Davies ei drin gan Dr Sean Gallagher.

Dywedodd: "Y gwir amdani yw nad yw pobl fel arfer mor lwcus. Mae'n anarferol cael CPR yn syth, ac ychydig iawn sy'n cael diffibriliwr yn y fan a'r lle, ac mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i obeithion pobl o oroesi."

Nid yw'r wybodaeth am oroesi ataliad ar y galon y tu allan i ysbytai yn cael ei chasglu'n rheolaidd, ond mae Dr Gallagher yn amcangyfrif mai tua 3-5% sy'n gwneud hynny, a bod hynny'n isel o gymharu gyda rhai ardaloedd sy'n gweld cyfradd goroesi o 15-20%.

Ychwanegodd: "Fe ddylien ni edrych ar hyn fel cyfle. Does dim rheswm pam na all Cymru ddod yn ardal sy'n gweld 15-20% yn goroesi ataliad."

Dywedodd Alun Davies fod y profiad wedi cael "effaith ddwys" arno, a'i fod wedi teimlo "braw" wrth ddychwelyd i'r parc fisoedd wedi'r digwyddiad.

Mae nawr am weithio i wella cyfraddau goroesi ataliad ar y galon y tu allan i ysbytai yng Nghymru.

'Rhaid buddsoddi'

Ym mis Hydref fe wnaeth gyflwyno "Mesur Calonau Cymru" yn y Senedd a gafodd gefnogaeth traws-bleidiol.

Mae'r mesur yn ceisio rhoi cyfrifoldeb ar weinidogion Cymru i wella canlyniadau i gleifion ataliad ar y galon, a sicrhau bod hyfforddiant CPR yn cael ei ddarparu i bobl ar draws Cymru.

Mae hefyd yn gosod cyfrifoldeb ar gynghorau i sicrhau bod digon o diffibrilwyr cymunedol yn eu hardaloedd.

Mae Dr Sean Gallagher yn credu y bydd profiad Alun Davies yn help i wella'r sefyllfa, er bod ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty yn cael ei drafod ers 2017.

"Rwy'n credu bydd mesur Alun yn mynd i ganolbwyntio a chyflymu lle 'roedden ni'n barod," meddai.

"Dyw'r broblem yma ddim yn mynd i ffwrdd... ond er mwyn parhau i ddarparu'r gofal gorau posib mae'n rhaid i ni fuddsoddi."

Gallwch glywed mwy am y stori ar Wales Live ar BBC One Cymru am 22:35 nos Fercher, 18 Tachwedd, ac ar BBC iPlayer.