Ataliad ar y galon yn newid persbectif AC ar fywyd

  • Cyhoeddwyd
Alun DaviesFfynhonnell y llun, Y Blaid Lafur

Mae Aelod Cynulliad wedi dweud bod ataliad ar y galon a gafodd yn ddiweddar wedi newid ei bersbectif ar "beth sy'n bwysig" mewn bywyd.

Roedd AC Llafur Blaenau Gwent, Alun Davies, yn rhedeg ym Mharc Biwt yng Nghaerdydd yn gynharach ym mis Ebrill pan stopiodd ei galon yn llwyr.

Cafodd ei gludo i'r ysbyty am driniaeth, ble bu hefyd yn dyst i'r "ofn" ar wynebau staff yng nghanol y pandemig coronafeirws.

Bu'n trafod ei brofiadau gyda Dewi Llwyd ar raglen Dros Ginio ddydd Llun.

Persbectif newydd ar fywyd

"O'dd pobl yn edrych yn ofn, yn edrych fel bo' nhw'n pryderu dim just am fy iechyd i ond pobl o'dd yn dod mewn i'r ward," meddai wrth drafod y profiad.

"Maen nhw'n cario 'mlaen yn 'neud beth mae'r gwasanaeth iechyd yn gallu 'neud, maen nhw'n gallu achub bywydau pobl fel 'naethon nhw gyda finnau, ond ar yr un pryd yn wynebu'r her fwyaf yn hanes y gwasanaeth iechyd."

Mae'r cyn-weinidog Llywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn gyfrifol am Addysg Gydol Oes a'r Iaith Gymraeg, ac Adnoddau Naturiol a Bwyd cyn hynny, yn cyfaddef fod y profiad yn frawychus ac wedi newid ei bersbectif ar fywyd.

"Mae e yn newid dy feddwl di am beth sy'n bwysig a ddim yn bwysig," dywedodd.

Ffynhonnell y llun, Geograph/Colin Park
Disgrifiad o’r llun,

Fe gwympodd Alun Davies wrth redeg ym Mharc Biwt yng Nghaerdydd

"Mae'r feirws wedi dangos i ni fod bosib byw bywyd gwahanol. Mae wedi dangos gwendid y model economaidd.

"Mae'n dangos bod yr amgylchedd yn gallu recovero o beth 'dan ni wedi neud iddo fe.

"Mae 'na lot o wersi i ni ddysgu o beth sy'n digwydd ar hyn o bryd a dwi ishe bod yn rhan o ddysgu'r gwersi yna."

Ffynhonnell y llun, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Davies yn bwriadu cymryd rhan yng nghyfarfod cynhadledd fideo nesaf y Cynulliad yr wythnos yma

Mae Mr Davies bellach yn gwella gartref ac yn mynd â'i gi am dro yn ddyddiol i gael ymarfer corff.

Mae'n gobeithio cymryd rhan yng nghyfarfod llawn y Cynulliad trwy gynhadledd fideo yr wythnos hon.

"Mae 'na bethe ni'n gallu 'neud o'n ni ddim yn gallu neud blynyddoedd yn ôl, sy'n golygu bo' chi dal yn gallu 'neud y gwaith tra'n edrych ar ôl eich hun," meddai.

Mae Mr Davies wedi disgrifio'r hyn ddigwyddodd yn llawn ar ei flog, dolen allanol, gan fynegi diolch i'r unigolion a ddaeth ar ei draws ym Mharc Biwt wedi'r ataliad ar y galon.