Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru 3-1 Y Ffindir

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae tîm pêl-droed Cymru wedi gorffen eu hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd gyda buddugoliaeth gampus adref yn erbyn y Ffindir, gan orffen ar frig Grŵp 4, cynghrair B.

Fe ddechreuodd Cymru'n gryf yn y munudau cyntaf gyda chyfle i Gareth Bale, ond fe gafodd ei ergyd ei dal gan golwr y Ffindir, Lukas Hradecky.

Gyda chwta 12 munud yn unig ar y cloc, fe newidiodd y gêm yn llwyr wedi i Jere Uronen droseddu yn erbyn Harry Wilson ac yntau gyda chyfle gwych am gôl.

Dim ond un canlyniad oedd i'r fath drosedd, a cherdyn coch oedd hwnnw - a'r Ffindir felly i lawr i 10 dyn.

Roedd Cymru'n rhydd i ymosod ar hyd yr asgell ac yn rheoli'r tempo yn gyfforddus yn dilyn hynny, ac fe ddaeth Gareth Bale yn agos eto wedi 26 o funudau.

Cefn y rhwyd

Doedd dim rhaid aros yn hir cyn i'r bêl ddarganfod cefn y rhwyd, a dau funud yn ddiweddarach fe lywiodd Bale y bêl i goesau Harry Wilson, ac fe sgoriodd yntau gôl gyntaf Cymru o'r noson.

Hon hefyd oedd y gôl gyntaf i Gymru ei sgorio yn ystod yr hanner cyntaf mewn unrhyw gêm yn yr ymgyrch hon.

Aeth Cymru ati wedyn i bwyso'r gwrthwynebwyr gan weld sawl cyfle agos - gydag ymdrechion Joe Morrell a Rhys Norrington-Davies yn methu troi'r fantais dactegol yn goliau o drwch blewyn.

Ar yr hanner roedd Cymru'n rheoli'n llwyr, ac os oedd cefnogwyr Cymru wedi eu plesio gyda'r 45 munud cyntaf, yna fe gafwyd mwy o newyddion da yn fuan ar ddechrau'r ail hanner.

Fe gafodd Daniel James ddigonedd o le i droi ar ochr y cwrt cosbi gan amddiffynwyr y Ffindir - ac fe lwyddodd i daro'r bêl yn gywrain a chaled i gongl chwith y rhwyd, gan sgorio'r ail gôl i Gymru.

JamesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daniel James yn sgorio ail gôl Cymru ar noson pan y disgleiriodd i'w wlad

Cafodd James Lawrence ei eilyddio am Kieffer Moore ar yr hanner, gyda'r crysau cochion yn awchu am rhagor o goliau - a daeth cyfle i Joe Morrell gydag ergyd wedi 54 o funudau.

Roedd Bale a James yn llawn egni ac yn rheoli'r gêm yn llwyr, ac fe fyddai gweld Bale yn cael ei eilyddio am Tom Lawrence ar ôl 60 munud yn rhyddhad enfawr i unrhyw gefnogwr Spurs oedd yn digwydd gwylio.

Ond ddau funud yn ddiweddarach fe darodd y Ffindir yn ôl - ar ôl i Robin Lod ddod o hyd i Teemu Pukki gyda chroesiad cywrain. 2-1 i Gymru, gydag ychydig llai na hanner awr yn weddill.

Fe ddechreuodd Cymru simsanu ychydig yn dilyn y gôl - a Robin Lod unwaith eto'n darganfod y bas berffaith, ac fe fu'n rhaid i Danny Ward arbed taran o ergyd gan Nicholas Hamalainen.

Fe welodd Ethan Ampadu gerdyn melyn ar ôl 75 munud, ac fe welodd cefnogwyr Caerdydd reswm i bryderu am ychydig funudau yn fuan wedyn - wrth i Harry Wilson a Kieffer Moore ill dau dderbyn triniaeth ar y cae am anafiadau.

Tawelu ofnau

Os oedd na unrhyw amheuaeth yn Stadiwm Dinas Caerdydd am ganlyniad y gêm gydag ychydig o dan chwarter awr yn weddill, yna fe ddaeth ymdrechion Daniel James a Kieffer Moore - gyda chroesiad perffaith James yn darganfod pen Moore - i dawelu unrhyw ofnau. 3-1 i Gymru wedi 84 munud o chwarae.

Cafodd y Ffindir un cyfle arall funud yn ddiweddarach - gyda Pukki yn ergydio, ond yn ofer wrth i'r bêl hedfan heibio ochr y postyn.

Dan James a Harry Wilson ddaeth oddi ar y cae ar ôl 89 munud - gyda David Brooks a Tyler Roberts ymlaen yn eu lle. Daeth Marcus Forss hefyd ymlaen yn lle Teemu Pukki i'r Ffindir.

Roedd pedwar munud ychwanegol i'w chwarae ar ddiwedd y 90, ac fe ddaeth ffefryn cefnogwyr Cymru, Chris Gunter ymlaen i ennill ei 99fed cap a choroni noson anhygoel i Gymru.

Roedd yn berfformiad agored, hyderus a disglair ar y noson, a Daniel James yn enwedig yn haeddu pob clod am ei ddoniau.

MooreFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kieffer Moore yn sgorio gyda'i ben yn Stadiwm Dinas Caerdydd i sicrhau buddugoliaeth gampus i Gymru

Mae'r canlyniad yn golygu fod Cymru wedi ennill Grŵp 4 cynghrair B, ac yn eu dyrchafu i gynghrair A ar gyfer tymor 2021-22.

O ganlyniad mae hyn yn golygu y bydd Cymru yn chwarae yn erbyn elît Ewrop y flwyddyn nesaf - gyda timau yn cynnwys Ffrainc, Portiwgal, Gwlad Belg, Sbaen a'r Almaen yn eu plith.

Mae ennill y grŵp hefyd yn newyddion da i ymdrechion Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd 2022, gyda gemau ail-gyfle'n cael eu cynnig i enillwyr grŵp Cynghrair y Cenhedloedd.