Dyrchafiad...a llwybr i Gwpan y Byd 2022?
- Cyhoeddwyd
Mae tîm pêl-droed Cymru wedi gorffen eu hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA yn yr un modd ag y gwnaethon nhw ddechrau - gyda buddugoliaeth yn erbyn y Ffindir.
Gyda'r fuddugoliaeth 3-1 mae Cymru wedi ennill Grŵp 4 yng nghynghrair B, ac wedi ennill dyrchafiad i gynghrair A ar gyfer tymor 2021-22.
Mae hyn yn golygu y bydd Cymru yn chwarae yn erbyn elît Ewrop flwyddyn nesaf; Ffrainc, Portiwgal, Gwlad Belg, Sbaen a'r Almaen yn eu plith.
Cwpan y Byd 2022
Mae'r ffaith bod Cymru wedi ennill eu grŵp wedi rhoi hwb enfawr i'r gobeithion o gyrraedd Cwpan y Byd 2022.
Bydd y grwpiau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd yn cael eu tynnu o'r het ar 7 Rhagfyr yn Zurich, gyda'r gemau yn cael eu chwarae rhwng Mawrth a Thachwedd flwyddyn nesaf.
Bydd 10 grŵp, gydag enillwyr pob grŵp yn mynd i Gwpan y Byd yn Qatar yn 2022.
Bydd 12 tîm yn mynd i'r gemau ail-gyfle. Bydd 10 ohonynt yn rai sy'n gorffen yn yr ail safleoedd yn y grwpiau. Bydd dau dîm arall a orffennodd ar frig eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd sydd ddim yn gorffen yn ddau uchaf yn eu grŵp ar gyfer Cwpan y Byd hefyd yn cael eu hychwanegu.
Fe fydd y 12 tîm yn y gemau cael eu rhannu, gyda rownd gyn-derfynol a rownd derfynol yn golygu bydd tri tîm ar ôl sy'n mynd i Gwpan y Byd. Gyda'r 10 sy'n ennill eu grwpiau bydd cyfanswm o 13 tîm o Ewrop yn mynd i Gwpan y Byd.
Mae hynny'n golygu os yw Cymru'n gorffen tu allan i'r ddau uchaf yn eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd, mi fyddan nhw bron yn sicr yn cael lle yn y gemau ail-gyfle beth bynnag, cyn belled bod llond llaw o'r timau mawr fel Ffrainc, Gwlad Belg a Sbaen yn gorffen o fewn dau uchaf eu grwpiau- fel mae disgwyl iddyn nhw wneud.
Mae'n hollol bosib felly bod Cymru ond dwy fuddugoliaeth i ffwrdd o gyrraedd Cwpan y Byd Qatar 2022.
Dyma sut wnaeth Cymru ennill y grŵp...
Y Ffindir 0-1 Cymru, 3 Medi 2020
Gyda nifer o enwau mwyaf Cymru yn absennol o'r garfan, fel Ramsey, Allen a Brooks, roedd buddugoliaeth oddi cartref yn y Ffindir yn ganlyniad gwych.
Fe wnaeth Ampadu a Lockyer yn dda i gadw ymosodwr peryg y Ffindir, Teemu Pukki, yn dawel.
Gôl Kieffer Moore gydag ond 10 munud o'r gêm yn weddill oedd y gwahaniaeth rhwng y timau, ac fe hawliodd Cymru le ar frig y grŵp wedi'r rownd gyntaf o gemau.
Cymru 1-0 Bwlgaria, 6 Medi 2020
Roedd gôl Kieffer Moore yn erbyn y Ffindir yn un hwyr, ond roedd rhaid aros yn hirach am beniad Neco Williams i'r rhwyd yn erbyn Bwlgaria - yn wir, 94 o funudau!
Jonny Williams groesodd y bêl i'w gyd-eilydd Neco Williams, a neidiodd yn uwch nag amddiffyn Bwlgaria.
Gweriniaeth Iwerddon 0-0 Cymru, 11 Hydref 2020
Wedi dwy fuddugoliaeth i ddechrau'r ymgyrch roedd Cymru'n teithio i Ddulyn yn llawn hyder ar gyfer y gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.
Roedd hi'n gêm hynod sâl, gydag ychydig iawn o gyfleoedd am goliau. Roedd Cymru'n galw am gic o'r smotyn pan gafodd Ethan Ampadu ei lorio wrth i'r gôl-geidwad Darren Randolph geisio cyrraedd y bêl.
Yn hwyr yn y gêm fe gafodd James McClean ei anfon o'r cae am ei ail drosedd. Roedd hi'n gêm anghofiadwy, ond yn bwynt defnyddiol yn yr ymgyrch a sicrhaodd fod Cymru'n aros ar frig y grŵp.
Bwlgaria 0-1 Cymru, 14 Hydref 2020
Yr un chwaraewyr gyfunodd i sgorio yn erbyn Bwlgaria eto, ond y tro hwn Neco Williams groesodd y bêl i Jonny Williams sgorio'n hwyr. Roedd hi'n gôl wych, a'r cyntaf i 'Joniesta' sgorio dros ei wlad.
Heb Bale, Brooks, Ramsey, Allen na Kieffer Moore roedd carfan ifanc Cymru'n profi eu bod yn gallu ennill oddi cartref heb yr enwau mawr.
Cymru 1-0 Gweriniaeth Iwerddon, 15 Tachwedd 2020
Roedd yr ail gêm o'r grŵp rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon yn dipyn mwy agored na'r un cyntaf fis ynghynt.
David Brooks sgoriodd unig gol y gêm wedi 66 o funudau. Danny Ward oedd yn y gôl i Gymru gan fod Wayne Hennessey wedi ei anafu, ac fe ddangosodd Joe Rodon yng nghanol yr amddiffyn pam ei fod yn cael ei ystyried yn un o chwaraewyr pwysicaf Cymru dyddiau 'ma.
Fe wnaeth y fuddugoliaeth olygu bod gêm olaf yr ymgyrch yn erbyn y Ffindir yn un hollbwysig, gyda'r enillwyr yn gwybod y bydd ennill yn sicrhau gorffen ar frig y grŵp.
Cymru 3-1 Y Ffindir, 18 Tachwedd 2020
Gorffennodd Cymru'r ymgyrch gyda buddugoliaeth gartref yn erbyn y Ffindir, 3-1. Wedi 12 munud o chwarae cafodd amddiffynnwr y Ffindir, Jere Uronen, gerdyn coch am drosedd ar Harry Wilson.
Harry Wilson gafodd y gôl gyntaf wedi 29 munud o chwarae. Yna yn syth wedi'r toriad ychwanegodd Dan James ail i Gymru gydag ergyd wych i gornel ucha'r rhwyd.
Daeth Ffindir yn ôl gyda gôl gan Teemu Pukki wedi i Robin Lod basio dros yr amddiffyn. Ond gyda phum munud yn weddill fe wnaeth Kieffer Moore pethau'n saff i Gymru gyda pheniad i'r rhwyd o ychydig lathau.
Hefyd o ddiddordeb: