Pryder am Nadolig heriol tu hwnt i elusennau eleni
- Cyhoeddwyd
Mae mudiadau elusennol yn pryderu y bydd hi'n Nadolig heriol tu hwnt eleni oherwydd Covid-19.
Daw'r rhybudd wrth i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru nodi y gallai elusennau sydd â'u pencadlys yng Nghymru golli cyfanswm o dros £600m o'u hincwm eleni.
Mae apêl deganau Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gorfod addasu.
Does dim modd cyfrannu tegan yn uniongyrchol i'r ymgyrch oherwydd rheolau Covid-19, ond yn hytrach, mae modd rhoi arian trwy wefan y cyngor.
Mae'r gweithwyr yn benderfynol o sicrhau y bydd dydd dros 1,000 o blant mwyaf anghenus y sir yn derbyn anrheg Nadolig.
Gyda'r pandemig wedi taro cymaint o deuluoedd, mae'r galw eleni yn fwy nag erioed yn ôl Nia Thomas, rheolwr busnes yn yr adran addysg.
"Wrth i'r ymgyrch ddatblygu yn ystod yr wythnose diwethaf, fi'n gweld cynnydd eitha' sylweddol yn y teuluoedd allan yna sy' wir mewn angen dros gyfnod y Nadolig," meddai.
Ond mae peth pryder na fydd yr un brwdfrydedd i gyfrannu eleni.
"Mae pobl yn hoffi'r profiad o fynd i brynu anrheg. Mae nifer o gapeli ac eglwysi yn arfer casglu niferoedd sylweddol o deganau, a ni'n sylweddoli fod y profiad ddim yr un fath eleni wrth roi yn ariannol.
"Ond am eleni, a gobeithio eleni yn unig, ry'n ni yn gofyn am arian yn uniongyrchol."
Oherwydd cyfyngiadau Covid-19 criw bychan sydd wedi bod ynghlwm â'r fenter eleni, gyda miloedd o anrhegion i'w prynu.
Yn ôl y Cynghorydd Mair Stephens, dirprwy arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, mae ymdrechion y staff yn arwrol.
"Mae hi wedi bod yn dipyn o fenter, ac ry'n ni'n ddiolchgar ofnadw i'r staff, sydd wedi mynd yn eu hamser eu hunain weithie i 'neud y siopa," meddai.
"Mae'n werth dweud fod yr arian yn cael ei wario yn siopau Sir Gâr hefyd - nid ar-lein."
'Cyfnod anodd iawn i ffermwyr'
Yn yr hinsawdd bresennol, mae gofalu am les meddwl trigolion mewn cymunedau amaethyddol hefyd yn her, a chodi arian ar gyfer hynny yn profi'n anodd eleni, yn ôl Wyn Thomas, rheolwr ffermwyr ifanc elusen Tir Dewi.
"Yr heriau ry'n ni wedi eu hwynebu ddydd i ddydd yw'r ffaith nad yw llefydd lle ry'n ni arfer codi arian wedi bod yn cwrdd," meddai.
"Mae'r Ffermwyr Ifanc, er enghraifft, yn arfer cynnal digwyddiadau a rhoi eu helw i ni fel elusen, ac mae'r un peth yn wir am wasanaethau diolchgarwch mewn capeli ac eglwysi.
"Ond ry'n ni wedi cael cyfraniadau anrhydeddus gan rai, ac ry'n ni'n hynod ddiolchgar am hynny."
Er y cyfraniadau hynny, mae Tir Dewi wedi colli incwm.
"Ni wedi colli ar arian yn bendant yn ystod y flwyddyn," meddai Mr Thomas.
"Hefyd mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i ffermwyr, sy'n golygu fod mwy o alw 'di bod am wasanaeth Tir Dewi, ac mae'n mynd i fod yn Nadolig gofidus i lot fawr o ffermwyr - yn enwedig i'r rhai yn y sector cig oen.
"Dy'n nhw ddim yn gwybod be' sy'n mynd i ddigwydd fis Ionawr mor belled â mae'r farchnad oen yn y cwestiwn, ac mae lot o ffermwyr yn gofidio am hynny."
'Ni ddim yn gallu cael agosatrwydd'
Dyw cynnig cymorth a chlust i wrando ddim yn hawdd o dan y cyfyngiadau presennol.
"Hyd yn oed nawr, wrth ymweld â ffermydd, ni'n gorfod cadw pellter," meddai Mr Thomas.
"Ma' eistedd rownd ford y gegin, a chael paned o de - fan hynny ma'r penderfyniade yn cael eu gwneud, fan hynny ma' probleme'n cael eu datrys, a dy'n ni ddim yn gallu cael yr agosatrwydd yna.
"Mae e'n ofid i ni, ac mae e'n ofid i nifer fawr o ffermwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd14 Mai 2020