Dyn wedi marw yn dilyn ymosodiad yng Nghaergybi
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 58 oed wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn "ymosodiad gwael" yng Nghaergybi ddydd Mawrth, 17 Tachwedd.
Dywedodd yr heddlu ei fod wedi llwyddo i gerdded i gartref ei bartner wedi'r ymosodiad.
Wedi hynny cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd cyn cael ei drosglwyddo i ysbyty arbenigol yn Stoke, lle bu farw ddydd Iau.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi dechrau ymchwiliad i lofruddiaeth ac yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Mae tri o bobl o'r ardal, dau ddyn 47 a 38 oed, a dynes 44 oed, wedi eu harestio mewn cysylltiad â'r ymchwiliad.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Brian Kearney fod yr ymosodiad wedi digwydd rhwng 10:00 ac 11:00 ddydd Mawrth yr ardal Stryd Thomas a Mount Pleasant o Gaergybi.
"Rydym wedi canfod bod y dyn wedi llwyddo i gerdded i lawr Stryd Thomas heibio'r Gofadail i gyfeiriad ei bartner ger Ffordd Holborn," meddai.
Mae'r heddlu wedi sefydlu canolfan ymchwiliad yng ngorsaf heddlu Llangefni.