Marwolaethau Covid: Cyfanswm wythnosol uchaf ers dechrau Mai

  • Cyhoeddwyd
MerthyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweithwyr iechyd ym Merthyr Tudful, gyda chymorth y fyddin, wedi profi dros 3,000 o drigolion mewn tridiau

Mae nifer y marwolaethau yng Nghymru sy'n gysylltiedig â Covid-19 wedi codi eto i'r cyfanswm wythnosol uchaf ers dechrau mis Mai.

Cafodd 190 o farwolaethau eu cofnodi yn ystod yr wythnos a ddaeth i ben ar 13 Tachwedd, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS)., dolen allanol

Mae hyn 24 yn fwy na'r wythnos flaenorol ac mae'n cyfrif am chwarter yr holl farwolaethau yng Nghymru.

Mae nifer y marwolaethau Covid mewn cartrefi gofal hefyd wedi codi i'w cyfanswm uchaf - 36 - ers pum mis.

Daw wrth i ffigyrau dyddiol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru ddangos bod 21 yn rhagor wedi marw gyda'r feirws.

Ddydd Mawrth, fe gododd y cyfanswm o farwolaethau i 2,406. Ond mae'r ONS eisoes wedi cadarnhau bod y gwir ffigwr dros 3,000.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 595 o achosion newydd o'r feirws.

O'r rhain, roedd y mwyafrif (78) yn Nhorfaen, 65 yn Rhondda Cynon Taf, 49 yn Nedd Port Talbot a 46 yng Nghasnewydd.

Blaenau Gwent ydy'r ardal sydd â'r gyfradd uchaf o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth gyda 407.9 - o flaen Nedd Port Talbot (284) a Chasnewydd (278.6).

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caerdydd - sydd wedi gweld y nifer fwyaf o farwolaethau yng Nghymru oni bai am Rhondda Cynon Taf - yn brysur unwaith eto

Mae cyfran y marwolaethau Covid o gymharu â phob marwolaeth yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr yn ystod yr wythnos hyd at 13 Tachwedd.

Cofrestrwyd 56 o farwolaethau ar draws ardal bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, sy'n cynnwys Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr. O'r rheini, roedd 44 yn yr ysbyty.

Hyd at yr wythnos ddiwethaf, bu farw 158 o bobl ar ôl dal Covid-19 mewn ysbytai yng Nghymru.

Hefyd bu 51 o farwolaethau yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan, ar draws pob lleoliad, 29 marwolaeth ym Mae Abertawe, 27 yn Betsi Cadwaladr a 14 yng Nghaerdydd a'r Fro.

Bu 10 marwolaeth yn Hywel Dda a thair marwolaeth yn yr ysbyty yn ymwneud â thrigolion Powys.

Mae ffigyrau'r ONS yn yr wythnos hyd at 13 Tachwedd yn dangos bod:

  • Rhondda Cynon Taf (465) a Chaerdydd (442) sydd wedi gweld y nifer fwyaf o farwolaethau yng Nghymru hyd yn hyn yn y pandemig;

  • Mae gan RhCT 193.6 o farwolaethau fesul 100,000 o bobl - bellach yr ail gyfradd uchaf ar draws yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr;

  • Bu 36 marwolaeth mewn cartrefi gofal yn ymwneud â Covid-19 - y nifer uchaf ers 22 Mai;

  • Cyfanswm y marwolaethau Covid yng Nghymru a gofrestrwyd erbyn 13 Tachwedd oedd 3,240;

  • Pan fydd marwolaethau a gofrestrwyd dros yr ychydig ddyddiau canlynol hefyd yn cael eu cyfrif, mae cyfanswm o 3,329 o farwolaethau yn digwydd hyd at 13 Tachwedd.

Mae 'marwolaethau gormodol', sy'n cymharu pob marwolaeth gofrestredig â blynyddoedd blaenorol, yn uwch na'r cyfartaledd pum mlynedd.

Mae cymharu ffigyrau cyfredol â nifer y marwolaethau sydd yna fel arfer ar yr adeg hon o'r flwyddyn yn cael ei ystyried yn llinyn mesur defnyddiol.

Yng Nghymru, gostyngodd nifer y marwolaethau i 742 yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, ond roedd hyn yn dal i fod 84 o farwolaethau (12.8%) yn uwch na'r cyfartaledd pum mlynedd.

Yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, cafodd Lloegr 2,274 o farwolaethau yn ymwneud â Covid, ac yna'r Alban (278), Cymru (190) a Gogledd Iwerddon (96).