Arestio dyn wedi marwolaeth menyw mewn carafán
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi'i arestio yn dilyn marwolaeth menyw mewn carafán.
Cafodd swyddogion o Heddlu Dyfed Powys eu galw i'r lleoliad yn Ninbych-y-pysgod, Sir Benfro, ychydig wedi 18:00 ddydd Gwener.
Dywedodd yr heddlu fod dyn wedi'i arestio a bod patrolau yn yr ardal wedi cynyddu.
Nid yw swyddogion wedi cadarnhau'r rheswm dros arestio'r dyn ac mae ymholiadau i farwolaeth y fenyw yn parhau.
"Hoffai'r heddlu dawelu ofnau y gymuned nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r mater hwn ar hyn o bryd," ychwanegodd llefarydd ar ran yr heddlu.