Menyw wedi marw ar ôl cael ei tharo gan gar yn Sir Conwy
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi marw ar ôl cael ei tharo gan gar yn Sir Conwy.
Cafodd ei tharo gan Volvo glas wrth iddi gerdded ar ffordd yr A547 ger Castell Gwrych rhwng Llanddulas ag Abergele tua 17:05 ddydd Sadwrn.
Bu farw'r fenyw yn y fan a'r lle medd y gwasanaethau brys.
Roedd gyrrwr y Volvo "mewn sioc ond heb ei anafu," meddai Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'r ffordd yn parhau i fod ar gau tra bod yr heddlu'n ymchwilio i'r gwrthdrawiad.
Dywedodd swyddogion eu bod wedi hysbysu'r crwner a'u bod yn apelio am dystion.
Dywedodd Sarjant Emlyn Hughes o'r Uned Plismona Ffyrdd: "Rwy'n apelio ar i unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad trasig hwn, neu a allai fod â lluniau dashcam i gysylltu â'r Uned Plismona Ffyrdd.
"Mae'r ffordd yn parhau i fod ar gau a bydd ar gau am gryn amser wrth i ni gynnal ein hymchwiliadau."