Ymdrechion yn Llandeilo i ddenu siopwyr lleol

  • Cyhoeddwyd
Lisa Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roeddwn yn gweld cael pop-up yn syniad da i fusnesau'r ardal, medd Lisa Jones

Mae arwyddion y bydd siopa yn lleol yn llawer mwy poblogaidd eleni ar drothwy'r Nadolig.

Mae cyfyngiadau Covid-19 wedi newid arferion siopa, ac mae arolwg newydd a gomisiynwyd gan Visa yn awgrymu fod 70% o bobl yng Nghymru yn credu ei bod yn bwysig cefnogi siopau lleol y Dolig hwn.

Fore Mawrth, 24 Tachwedd bydd Pop-Up Llandeilo yn agor ei ddrysau ar y stryd fawr yn y dre a bydd cyfle i gynhyrchwyr lleol werthu o dan yr un to.

Dywed Lisa Jones sydd yn berchen ar yr adeilad: "O'dd y siop yn wag 'da ni, a 'naethon ni benderfynu bo' cyfle fan hyn i agor siop pop-up ar gyfer y Nadolig.

"O'n i'n gweld fod busnesau bach wedi colli mas ar ddigwyddiadau a ffeiriau Nadolig, a meddwl y bydde hyn yn gyfle gwych."

Colli'r gwmnïaeth

Yn ôl arolwg gan Visa, roedd 56% o'r rhai a holwyd yn dweud fod cefnogi busnesau lleol yn eu gwneud yn hapus a dros 70% yn poeni am ddyfodol busnesau bychain annibynnol yn yr hinsawdd presennol.

Eleri Haf Designs fydd un o'r stondinau yn Pop-up Llandeilo sydd yn gwerthu cardiau cyfarch a bagiau cotwm.

Eleri Haf
Disgrifiad o’r llun,

"Ma' hyn yn lyfli gan bod ni methu gwneud ffeiriau eleni," medd Eleri Haf

"Sai 'di neud rhwybeth fel hyn o'r blaen," eglura Eleri Haf o Landybie.

"Fi fel arfer yn gwneud ffeiriau Nadolig, ond ma' hyn yn lyfli gan bod ni methu gwneud ffeiriau eleni."

Dywed Eleri ei bod wedi colli cwmnïaeth cwsmeriaid yn ystod y flwyddyn.

"Mae hynny 'di bod yn drist - methu gweld cwsmeriaid a chwrdd wyneb yn wyneb. Felly dwi'n edrych 'mlaen at hynny."

Bydd amrywiaeth o stondinwyr yn y siop yn Llandeilo.

"Mae tua 15 o fusnesau 'da ni, ac roedd hi'n bwysig cael trawsdoriad, fel bod amrywiaeth o anrhegion ar gael, o fwyd i emwaith a bagiau," eglura Lisa Jones.

"Mae'n rhan o fy ngwaith i helpu busnesau ar gyfryngau cymdeithasol, a'r trend ydy fod pobol mo'yn cefnogi yn lleol eleni.

"Ni hefyd yn credu falle na fydd pobol yn teithio o'r ardal hon i lefydd fel Caerdydd ac Abertawe i wneud eu siopa Dolig, a'u bod yn hapus i ddod i Landeilo a chefnogi'n lleol."

Gwaith Eleri HafFfynhonnell y llun, Eleri Haf
Disgrifiad o’r llun,

Mae arolwg newydd yn awgrymu fod 70% yng Nghymru yn credu ei bod yn bwysig cefnogi siopau lleol eleni

Drwy wario deg punt gyda busnes lleol, mae gwerth £3.80 yn aros yn yr ardal - dyna gasgliad yr ymgyrch Where You Shop Matters gan Visa .

A thrwy ddewis siopa'n lleol y Nadolig hwn, mae'r ymgyrch yn nodi y gallai cwsmeriaid ddyblu'r swm sy'n aros yn eu hardal leol.