Pwerau argyfwng i'r heddlu ar ôl trais Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi cael pwerau ychwanegol i orchymyn pobl i adael y ddinas am 24 awr yn dilyn digwyddiad treisgar yng Nghaerdydd.
Nos Sadwrn cafodd chwech o bobl eu cludo i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad ar Heol y Frenhines.
Fel rhan o'r grymoedd ychwanegol, mae gan yr heddlu'r hawl i orfodi pobl i adael canol y ddinas os ydynt yn amau bod rhywun yn ymddwyn yn anghymdeithasol neu yn achosi trwbl.
Bydd y grymoedd yn dod i ben dydd Mawrth.
Digwyddiad 'siomedig a phryderus'
Y gred yw bod un person wedi dioddef anafiadau difrifol i'w ben nos Sadwrn a'i fod mewn cyflwr difrifol wael.
Mae tri arall yn cael eu trin am anafiadau llai difrifol ar ôl cael eu trywanu, ond nid yw eu hanafiadau'n peryglu eu bywydau.
Arestiwyd pedwar o bobl ar amheuaeth o aflonyddwch treisgar yn dilyn y digwyddiad.
Dywedodd yr heddlu bod Taser hefyd wedi cael ei ddefnyddio i reoli un dyn oedd yn rhwystro swyddogion, er nad oedd wedi chwarae rhan uniongyrchol yn y digwyddiad.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Esyr Jones fod y digwyddiad yn cynnwys "llanciau lleol".
Yn siarad ar Post Cyntaf dydd Llun dywedodd cynghorydd ardal Waunadda yng Nghaerdydd, Owen Jones: "Wrth gwrs mae hwn yn ddigwyddiad amlwg a siomedig am y ddinas.
"Mae 2020 'di bod yn flwyddyn anodd iawn, ond y rhan dda o hwnna yw ni 'di gweld cymunedau yn dod at ei gilydd, ond i gael yr achlysur yma yn arwain i'r Nadolig, ac ar un o brif strydoedd y brifddinas, wrth gwrs mae'n siomedig ac mae bach yn worrying.
"Doedd hyn ddim am dri o'r gloch yn y bore, roedd hyn biti deg o'r gloch, oedd y tafarnau dal ar agor, roedd pobl dal ar y strydoedd, felly dyna be sy' 'di neud hon yn rhywbeth bach yn wahanol... oherwydd mae'n rhywbeth mor amlwg, reit o'n blaenau ni..."
'Ddim yn neis i weld Caerdydd yn mynd y ffordd yma'
"Beth bydde fi yn dweud yw trwy siarad â'r heddlu da ni'n gwybod taw dau grŵp o wahanol ardaloedd y ddinas sy 'di neud hyn...
"Pobl ifanc 16-17 o'n nhw, maen nhw'n amlwg, rwy'n credu yn gwybod ei gilydd cyn, doedden nhw ddim jyst yn bobl oedd wedi cael eu dal lan yn y frwydr."
Ychwanegodd bod "cyllyll yn dod yn fwy a mwy amlwg mewn bywyd yn anffodus", ond nad oedd yn credu bod Caerdydd yn "waeth" na dinasoedd eraill y DU am drais.
Bu Lewis Gale, sy'n rhedeg stondin yn agos i'r digwyddiad nos Sadwrn, hefyd yn ymateb i'r digwyddiad ar Post Cyntaf dydd Llun: "Mae hwn yn swnio'n ddifrifol iawn o ran ein stondin.
"Mae... gadael cariad fi ar ben ei hun, ti' mod mae hwnna'n dod mewn i meddwl chi, mae ddim yn neis i weld Caerdydd yn mynd y ffordd yma."
Mae ymchwiliadau yn parhau i beth ddigwyddodd nos Sadwrn ac mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu unrhyw riant sy'n amau bod gan ei blentyn gysylltiad â'r digwyddiad i gysylltu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2020