Is-etholiad yn frwydr rhwng Plaid Cymru a Reform - Rhun ap Iorwerth

Roedd Rhun ap Iorwerth yn ymgyrchu yn Ystrad Mynach yn yr etholaeth ddydd Iau
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth yn dweud bod is-etholiad Caerffili yn "frwydr uniongyrchol" rhwng ei blaid a Reform UK.
Wrth ymgyrchu yn yr etholaeth ddydd Iau, dywedodd fod arolygon barn diweddar yn awgrymu bod Llafur yn "disgyn ymhell ar ei hôl hi".
Mae pôl diweddaraf Barn Cymru yn dangos Plaid Cymru ar 30%, Reform ar 29%, Llafur ar 14%, a'r Ceidwadwyr ar 11% ledled Cymru.
Cafodd yr is-etholiad ar gyfer sedd Caerffili yn Senedd Cymru ei alw yn dilyn marwolaeth annisgwyl yr aelod Llafur o'r Senedd, Hefin David, fis diwethaf.
'Y stori'n dod yn glir iawn'
Wrth siarad ar ymweliad ag Ystrad Mynach, dywedodd arweinydd Plaid Cymru: "Mae'r stori'n dod yn glir iawn erbyn hyn ac mae pobl yn dweud hynny wrthym ni cymaint ag yr ydym ni'n ei ddweud wrthyn nhw.
"O'r pôl yr wythnos yma gallwn weld mai'r stori rŵan ydy bod Llafur yn disgyn ymhell ar ei hôl hi.
"Mae'n frwydr uniongyrchol rhwng Plaid Cymru a Reform.
"Neges gadarnhaol Plaid Cymru wedi'i chreu yng Nghymru, i Gymru a'n cymunedau yma, neu Reform, gyda'u hadnoddau enfawr, yn defnyddio Cymru fel carreg sarn ar gyfer eu huchelgeisiau ar gyfer y DU.
"Mae'n amlwg bod pleidlais dros Lafur rŵan yn bleidlais i roi cyfle i Reform ddod i'r brig."
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Mae'r arolwg barn diweddaraf gan YouGov ar gyfer ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd, a gyhoeddwyd nos Fawrth, yn dangos Plaid Cymru ar 30%, Reform ar 29%, Llafur ar 14%, y Ceidwadwyr ar 11%, a'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Gwyrddion ar 6%.
Mae dadansoddiad gan Brifysgol Caerdydd yn awgrymu, pe bai etholiadau'n cael eu cynnal ledled Cymru, y byddai Plaid Cymru ar hyn o bryd yn ennill 38 sedd yn y Senedd estynedig 96 aelod.
Byddai gan Reform 37, Llafur 11, y Ceidwadwyr chwech, y Democratiaid Rhyddfrydol tri a'r Gwyrddion un.
Bydd is-etholiad Caerffili yn cael ei gynnal ar 23 Hydref, a'r etholiadau i'r Senedd yng Nghymru gyfan fis Mai nesaf.
Mae enwebiadau'n cau ar gyfer is-etholiad Caerffili am 16:00 ddydd Gwener nesaf.
'Trin cymunedau Cymru fel ffyliaid'
Dywedodd llefarydd ar ran Reform: "Am 26 mlynedd, mae Plaid Cymru wedi cynnal gweinyddiaeth Llafur sydd wedi methu ym Mae Caerdydd.
"O'r polisi cenedl noddfa i'r terfyn cyflymder cyffredinol 20mya, mae Plaid Cymru wedi bod yn gefnogwyr mwyaf brwd Llafur yn y Senedd.
"Drwy esgus eu bod yn wahanol, maen nhw'n trin cymunedau Cymru fel ffyliaid.
"Reform yw'r unig blaid yng Nghymru a all ddod â diwedd ar arbrawf trychinebus Llafur a Phlaid Cymru a chyflawni newid go iawn."
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr bod "pleidleiswyr wedi blino" ar y Blaid Lafur "gyda rhestrau aros hirach y GIG, terfynau cyflymder 20mya ac arian yn cael ei wastraffu ar fwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd".
"Mae Plaid Cymru yn rhan o'r broblem.
"Maen nhw wedi cynnal Llafur, wedi cefnogi'r un polisïau aflwyddiannus, ac maen nhw eisoes yn edrych ar daro bargen arall gyda Llafur ar ôl etholiadau'r Senedd.
"Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd â'r dewis arall credadwy a chynllun cadarnhaol i drwsio Cymru."
Dyma ymgeiswyr is-etholiad Caerffili hyd yma, wedi'u rhestru yn nhrefn yr wyddor:
Anthony Cook - Gwlad
Gareth Potter - Ceidwadwyr
Llŷr Powell - Reform
Richard Tunnicliffe - Plaid Lafur
Lindsay Whittle - Plaid Cymru