Morgan: Rhesymau eraill dros wrthod gwahoddiad i wledd gyda Trump

"Mae ein gwleidyddiaeth yn wahanol iawn" meddai Eluned Morgan am yr Arlywydd Trump
- Cyhoeddwyd
Mae prif weinidog Cymru wedi dweud mai dim ond "rhan" o'i rheswm dros wrthod gwahoddiad i'r wledd gyda'r Arlywydd Trump yng Nghastell Windsor ddydd Mercher oedd marwolaeth un o'i ASau.
Gan siarad am y tro cyntaf ers iddi benderfynu peidio â mynd, dywedodd Eluned Morgan wrth orsaf radio yn sir Benfro fod gwahaniaeth gwleidyddol rhyngddi hi a'r arlywydd a soniodd am y sefyllfa yn Gaza.
Mae'n mynd ymhellach na dau ddatganiad cynharach gan Lywodraeth Cymru, a oedd ond yn ymdrin â'r digwyddiadau trasig o amgylch marwolaeth Hefin David.
Mae ei phenderfyniad i wrthod y gwahoddiad wedi cael ei feirniadu'n hallt gan y Ceidwadwyr Cymreig.
'Gwleidyddiaeth Trump yn wahanol iawn'
Mewn cyfweliad byw gyda radio Pure West fore Mercher dywedodd y prif weinidog: "Yn amlwg, mae gwleidyddiaeth Trump yn wahanol iawn i'm gwleidyddiaeth i.
"Gwahoddodd y Brenin fi'n garedig i fynychu'r wledd wladwriaethol.
"Doeddwn i ddim yn teimlo mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud, yn rhannol oherwydd fy mod i'n teimlo bod angen i mi fod gyda fy nghydweithwyr yr wythnos hon pan rydyn ni i gyd yn dod i delerau â'r sefyllfa anodd iawn hon mewn perthynas â Hefin David.
"Felly mae yna amser pan mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod gyda'ch gilydd, ac edrychwch, mae ein gwleidyddiaeth yn wahanol iawn ac rydych chi'n edrych ar bethau fel Gaza ac rydych chi'n meddwl bod angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ymyrryd, a byddai'n dda, dw i'n meddwl, pe gallem ni wneud ychydig mwy yno."
- Cyhoeddwyd17 Medi
- Cyhoeddwyd16 Medi
- Cyhoeddwyd15 Medi
Nos Fawrth, cadarnhaodd datganiad gan Lywodraeth Cymru na fyddai Ms Morgan yn mynychu'r wledd a dywedodd ei bod wedi ysgrifennu at y Brenin i "ddiolch iddo am ei wahoddiad caredig" ond ei bod yn teimlo bod "ei lle hi yma gyda chydweithwyr wrth iddi barhau i'w cefnogi yn ystod yr amser anodd hwn".
Amser cinio ddydd Mercher, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad newydd a ddywedodd: "Mae digwyddiad preifat heno rhwng y prif weinidog ac ASau yn dilyn marwolaeth Hefin David."
Cynhaliwyd y cyfweliad byw gyda radio Pure West fore Mercher.
Mae'n dal yn aneglur pryd y derbyniwyd y gwahoddiad i'r wledd na phryd y trefnwyd digwyddiad nos Fercher gydag Aelodau o'r Senedd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru brynhawn Mercher nad oedden nhw am wneud sylw pellach ar y mater.

Fe wnaeth Donald Trump gyrraedd Llundain nos Fawrth gyda'i wraig, Melania, ar gyfer ei ail ymweliad gwladol
Wrth siarad fore Iau, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar: "Yn amlwg, mae gan bawb lawer iawn o gydymdeimlad â Llafur yng Nghymru ar ôl colli cydweithiwr fel Hefin David, ond mae awgrymu wedyn mai'r hyn rydych chi'n ceisio'i wneud mewn gwirionedd yw gwrthod apwyntiad oherwydd bod gennych chi rai gwahaniaethau gwleidyddol yn neges dwyllodrus.
"Rwy'n credu pe bai'r prif weinidog eisiau gwrthod yr Arlywydd, y dylai hi ei gwneud yn glir ei bod yn gwrthod yn wleidyddol."
Nid Ms Morgan yw'r unig arweinydd plaid i wrthod gwahoddiad i'r wledd.
Ym mis Awst dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Ed Davey ei fod yn boicotio'r digwyddiad er mwyn anfon neges at yr Arlywydd Trump ynglŷn â'r argyfwng dyngarol yn Gaza.
Ond fe wnaeth Prif Weinidog yr Alban, John Swinney, fynychu'r digwyddiad yn Windsor.
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ac arweinydd y blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts, wedi beirniadu penderfyniad Keir Starmer i groesawu Mr Trump gydag anrhydeddau llawn y wladwriaeth, gan rybuddio bod "ei bresenoldeb yn peryglu hybu eithafiaeth gartref a thramor".