AS yn colli pleidlais i'w ddad-ddethol fel ymgeisydd
- Cyhoeddwyd
Mae aelod Ceidwadol o'r Senedd, wnaeth fygwth mynd ag aelodau'r blaid i gyfraith dros ymdrech i'w ddad-ddethol fel ymgeisydd, wedi colli pleidlais allweddol o'i blaid leol.
Fe wnaeth Nick Ramsay fynychu cyfarfod ar-lein Cymdeithas Geidwadol Mynwy nos Lun, ble wnaeth aelodau gefnogi deiseb oedd yn galw am ailagor y broses o ddewis ymgeisydd.
Bydd angen cyfarfod pellach er mwyn cadarnhau'r penderfyniad.
Mae Mr Ramsay wedi dweud y bydd yn parhau i frwydro dros yr etholaeth.
Talu costau'r gymdeithas
Roedd yr AS wedi bygwth gweithredu'n gyfreithiol er mwyn atal y cyfarfod rhag mynd yn ei flaen, cyn tynnu'r cais am orchymyn llys yn ôl mewn gwrandawiad yn yr Uchel Lys ddydd Gwener.
Fe wnaeth y barnwr orchymyn Mr Ramsay i dalu costau cyfreithiol y gymdeithas leol - oedd tua £25,000.
Fe wnaeth o leiaf 150 o aelodau'r blaid fynychu'r cyfarfod ar-lein nos Lun - dros 20% o gyfanswm yr aelodaeth.
Mewn pleidlais gudd fe wnaethon nhw gymeradwyo cais i ailystyried dewis Nick Ramsay fel eu hymgeisydd ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2021.
Pryderon am Mr Ramsay
Mae BBC Cymru yn deall y cafodd pryderon eu codi nad ydy Mr Ramsay yn ymwneud â'r blaid leol, a'i fod wedi gwrthod cwrdd â chadeirydd y gymdeithas er mwyn cynllunio ar gyfer yr etholiad.
Roedd pryderon hefyd ynglŷn â bygythiad Mr Ramsay i fynd â Heddlu Gwent i gyfraith wedi iddo gael ei arestio ym mis Ionawr, cyn cael ei ryddhau heb gyhuddiad ddeuddydd yn ddiweddarach.
Mewn datganiad wedi'r bleidlais, dywedodd Mr Ramsay ei bod hi'n "parhau'n aneglur pam fod y ddeiseb yma wedi'i galw" ond ei fod yn "derbyn y broses ddemocrataidd".
"Rwy'n cadw at fy safbwynt bod lleiafrif o bobl wedi achosi'r helynt yma, sydd wedi tynnu ein sylw oddi ar ein prif dargedau a chyfrifoldebau mewn cyfnod anodd ac ofnadwy."
Ychwanegodd: "Cefais fy newis fel ymgeisydd dros 18 mis yn ôl, ac ers hynny rydw i wedi brwydro'n ddiddiwedd dros fy etholaeth a fy mhlaid. Fe fydda i'n parhau i wneud hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2020