Galwadau i ddad-ddewis AS Ceidwadol Mynwy

  • Cyhoeddwyd
Nick Ramsay
Disgrifiad o’r llun,

Bu Nick Ramsay yn Aelod Senedd ers 2007

Mae'r Aelod Senedd Nick Ramsay yn wynebu galwadau i'w ddad-ddewis fel ymgeisydd ar gyfer etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.

Bydd y Gymdeithas Geidwadol yn ei etholaeth yn cwrdd yn ddiweddarach y mis yma i drafod deiseb sy'n galw am ailystyried ei statws fel ymgeisydd yn etholiad 2021.

Os fydd yn llwyddo, gallai'r ddeiseb fod yn ddechrau'r broses o'i ddilyn fel ymgeisydd.

Dywedodd Mr Ramsay ei fod yn canolbwyntio ar anghenion ei etholwyr.

Yn gynharach eleni, cafodd Mr Ramsay ei wahardd o'r blaid wedi iddo gael ei arestio ar Ddydd Calan. Cafodd ei rhyddhau yn ddigyhuddiad ddeuddydd yn ddiweddarach.

Yn dilyn camau cyfreithiol ganddo, cafodd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd eu gorfodi i'w adael yn ôl i'w mysg, cyn i'r blaid yn ganolog godi'r gwaharddiad yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mewn llythyr at aelodau'r blaid leol, dywedodd cadeirydd Cymdeithas Ceidwadwyr Mynwy, Nick Hackett-Pain, fod y grŵp wedi "derbyn deiseb sydd wedi'i llofnodi gan nifer fawr o aelodau'r gymdeithas".

"Mae'r ddeiseb yn galw am gyfarfod cyffredinol arbennig o'r gymdeithas i ailystyried mabwysiadu'r aelod presennol, Nick Ramsay, fel ein darpar ymgeisydd i etholiad Senedd Cymru y flwyddyn nesaf," meddai.

Dywedodd Mr Hackett-Pain bod dyletswydd arno i alw cyfarfod oherwydd bod "cynifer o enwau ar y ddeiseb".

Y berthynas 'wedi dirywio'

Dywedodd ffynhonell o Geidwadwyr Mynwy: "Mae'r berthynas rhwng Nick Ramsay a'i gymdeithas Ceidwadwyr lleol wedi bod yn dirywio ers blynyddoedd, ac wedi bron yn absennol am y rhan fwyaf o 2020.

"Dros y blynyddoedd mae'r aelodau wedi teimlo embaras cynyddol a dicter am ymddygiad Nick, ac yn siomedig yn ei berfformiad fel eu cynrychiolydd lleol ym Mae Caerdydd."

Deellir y bydd y cyfarfod yn trafod a fydd y ddeiseb yn cael ei derbyn gan aelodau, gyda chyfarfod pellach wedyn i drafod a ddylid glynu at benderfyniad blaenorol i gadw Mr Ramsay fel ymgeisydd ai peidio.

Dywedodd Mr Ramsay: "Rwy'n canolbwyntio'n llwyr ar anghenion fy etholwyr yn ystod y cyfnod anodd yma o'r pandemig.

"Byddaf yn edrych ar y rhesymau y tu ôl i benderfyniad Cymdeithas Ceidwadwyr Mynwy i weithredu fel hyn, a byddaf yn gwneud daatganiad pellach dros y dyddiau nesaf."

Wrth ymateb i sylwadau'r 'ffynhonell' o'r Ceidwadwyr lleol dywedodd: "Rwtsh pur yw hyn. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad gyda sawl aelod o'r gymdeithas leol dros y flwyddyn, a chyflawni fy rôl yn y Senedd.

"Fyddwn i'n disgwyl dim llai gan ffynhonnell dienw sbeitlyd."

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cael cais am sylw.