Amddiffyn defnydd o bryfaid ar I'm a Celebrity Castell Gwrych

  • Cyhoeddwyd
TrialFfynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heriau i'r sêr yn aml yn cynnwys pryfaid ac anifeiliaid byw

Mae cynhyrchwyr rhaglen I'm a Celebrity... Get Me Out of Here! wedi amddiffyn eu defnydd o bryfaid ac anifeiliaid byw mewn sialensiau ar y gyfres sy'n cael ei ffilmio yng Nghymru.

Daw wedi pryderon bod y creaduriaid yn cael eu rhyddhau i gefn gwlad yn ardal Castell Gwrych, Sir Conwy.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ddydd Mercher eu bod yn "ymwybodol o gwynion diweddar am y defnydd o fywyd gwyllt sydd ddim yn frodorol tra'n ffilmio I'm a Celebrity...".

Mae'r naturiaethwr Iolo Williams wedi codi pryderon am ddefnydd y rhaglen o anifeiliaid estron, dolen allanol, a dywedodd bod yna "beryg go iawn" i bryfaid ddianc.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ei fod yn "iawn" ymchwilio os oes unrhyw dorri rheolau wedi digwydd.

Ond mae'r cynhyrchwyr yn dweud bod yr holl rywogaethau yn rhai sydd ddim yn oresgynnol.

'Casglu ar ôl ffilmio'

Mae'r rhaglen yn cael ei ffilmio yng Nghymru eleni yn hytrach nag Awstralia oherwydd y pandemig.

Fel rhan o'r heriau sy'n cael eu gosod yn y castell, mae nifer fawr o bryfaid fel chwilod du, cynrhon a phryfaid cop wedi eu gollwng dros y sêr.

Mae adroddiadau bod yr heddlu'n ymchwilio i ddefnydd y rhaglen o rywogaethau sydd ddim yn frodorol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r naturiaethwr Iolo Williams wedi codi pryderon am y defnydd o anifeiliaid ar y rhaglen

Daw yn dilyn pryderon y naturiaethwr a chyflwynydd Iolo Williams, a ddywedodd bod "problemau ecolegol enfawr" ynghlwm â'r defnydd o bryfaid.

Yn siarad ddydd Mercher, dywedodd bod 'na "beryg go iawn i rai o'r creaduriaid 'ma ddianc allan i'r gwyllt".

"Fel 'da ni'n gwybod mae hyn wedi digwydd yn y gorffennol efo creaduriaid fel minc Americanaidd ac yn y blaen, ac mae creaduriaid estron yn costio £1.8bn i ni ym Mhrydain i drio rheoli nhw.

"A dyna'r peth ola' dyle ni fod yn 'neud ydy cael unrhyw fath o risg..."

'Casglu ar ôl ffilmio'

Mae'r cynhyrchwyr wedi amddiffyn eu hunain, gan ddweud bod y pryfaid yn cael eu rhyddhau mewn ardal gaeedig, "ac yn cael eu casglu yn syth ar ôl ffilmio".

Ychwanegodd llefarydd: "Mae'r pryfaid wedi eu magu yn y DU... ar gyfer bwyd adar ac anifeiliaid ecsotig sy'n anifeiliaid anwes neu mewn sŵau fel arfer.

"Mae'r pryfaid wedi eu rhoi i warchodfeydd, ymddiriedolaethau a sŵau er mwyn bwydo eu hanifeiliaid ar ôl ffilmio."

Ond cwestiynu hynny mae Mr Williams: "Meddyliwch chi os 'da chi 'di bod mewn rhyw fath o dwnnel a chael pob math o bryfetach wedi'i daflu ata chi, ma' nhw'n mynd i fod yn styc ym mhob twll a chornel...

"A 'dan ni'n sôn am greaduriaid fel cockroach er enghraifft, ac mae'r rhain yn gallu goroesi bron r'wbath, a 'da chi ddim yn gw'bod os oes rhyw fath o afiechyd ynghlwm efo nhw."

Risg i fywyd gwyllt a phobl

Ddydd Mercher, dywedodd Prif Weinidog Cymru bod y llywodraeth wedi gweithio gyda'r cynhyrchwyr i sicrhau eu bod yn dilyn y rheolau.

Ond ychwanegodd Mr Drakeford: "Os oes tor-cyfraith wedi bod yna mae'n iawn fod ymchwiliad.

"Bydden ni'n bryderus am rywogaethau sydd ddim yn frodorol yn cael eu rhyddhau."

Soniodd am achos diweddar yn Nenmarc ble mae coronafeirws wedi croesi o un rhywogaeth i un arall.

"Dydyn ni ddim am weld rhywogaethau estron yn cael eu rhyddhau yma yng Nghymru oherwydd y risg i fywyd gwyllt arall, ond o bosib, fel yn Nenmarc, y risg i bobl hefyd," meddai.