Menter iaith Hunaniaith eisiau gwahanu o Gyngor Gwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth menter iaith Gwynedd wedi annog cynghorwyr i dorri cysylltiadau rhwng y corff a'r cyngor, gan alw'r drefn bresennol yn "anghynaladwy".
Ddydd Mawrth fe wnaeth cabinet y cyngor gefnogi galwad i sefydlu pwyllgor gwaith er mwyn ystyried dyfodol Hunaniaith - menter iaith Gwynedd.
Bydd y grŵp yn ystyried sawl opsiwn, gan gynnwys bod Hunaniaith yn parhau dan ofal Cyngor Gwynedd, bod statws y corff yn cael ei newid i un hyd braich, neu fod y corff yn torri cysylltiadau gyda'r cyngor.
Dywedodd cadeirydd Grŵp Strategol Hunaniaith, Dafydd Iwan wrth gyfarfod y cabinet ei fod o'r farn bod angen i'r fenter iaith fod yn annibynnol am nad yw'n "cyflawni'r hyn y mae wedi'i ddylunio i wneud" ar hyn o bryd.
Mentrau iaith eraill yn ffynnu
Ar hyn o bryd mae Hunaniaith yn un o'r gwasanaethau sydd o dan strwythur Cyngor Gwynedd, ond dyma'r unig fenter iaith yn y sir sy'n cael ei rheoli yn y modd yma.
Adroddiad gan Hunaniaith eu hunain oedd wedi cynnig y newidiadau, sy'n cynnwys y posibilrwydd o fwy o hunan-reolaeth allai eu rhoi mewn sefyllfa well i ddenu arian o'r tu allan.
Ar un cyfnod roedd y corff yn cyflogi pump o staff, ond ers 2015 gyda'r cwtogiad mewn grant o Lywodraeth Cymru - o £224,362 yn 2015-16 i £166,890 yn 2020-21 - mae'r staffio uniongyrchol o dan y grant yn cyfateb i 3.5 aelod o staff lawn amser.
Mae'r adolygiad wedi canfod bod mentrau iaith eraill a gafodd eu sefydlu fel cwmnïau annibynnol - neu elusennau mewn rhai achosion - wedi gallu chwyddo'u hincwm diolch i grantiau gan gyrff cyhoeddus eraill, cronfeydd elusennol a ffynonellau eraill.
"Dwi'n teimlo y byddai sefydlu cwmni hyd braich yn disgyn rhwng dwy stôl, ac yn hytrach fe fyddwn i'n ffafrio cwmni annibynnol," meddai Mr Iwan wrth y cyfarfod nos Fawrth.
"Rwy'n deall y byddai yna oblygiadau o ran staffio ac ariannu a dyw'r amseroedd hyn ddim y gorau, ond ar ran y grŵp rwy'n annog yn gryf ein bod yn parhau ar y trywydd hwn."
Ychwanegodd y "byddai hyn yn lleihau'r baich ariannol ar y cyngor" ac y gallai Hunaniaith geisio denu nawdd o ffynonellau eraill.
"Mae wir angen hyn os ydyn ni am gyrraedd cymunedau a chryfhau'r iaith trwy'r sir. Dydw i ddim yn meddwl bod gennym opsiwn arall," meddai.
Cefnogaeth unfrydol
Wrth gefnogi galwad Mr Iwan, fe wnaeth y Cynghorydd Craig ab Iago gydnabod bod "90% o drigolion Gwynedd erioed wedi clywed am Hunaniaith".
Cytunodd y Cynghorydd Gareth Thomas hefyd y byddai Hunaniaith, pe bai'n annibynnol, yn debygol o fod mewn gwell safle i sicrhau nawdd o ffynonellau eraill.
Cafodd adroddiad Hunaniaith gefnogaeth unfrydol gan y cabinet, gan olygu y bydd tasglu yn cael ei sefydlu i ystyried yr opsiynau ar gyfer dyfodol y fenter iaith.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2020