Dau ddyn yn gwadu cyfres o droseddau rhyw hanesyddol

Angus Riddell (chwith) a Robin Griffiths (dde)Ffynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Mae Angus Riddell (chwith) a Robin Griffiths (dde) wedi gwadu cyfres o droseddau rhyw hanesyddol

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi gwadu cyfres o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant mewn cyn-ganolfan asesu yn y Fenni.

Mae Angus Riddell, 69 o Gwmbach, Aberdâr, a Robin Griffiths, 65, sy'n byw yn Nyfnaint, wedi eu cyhuddo o gyfanswm o 45 o droseddau rhwng yr 1970au a'r 1990au.

Fe glywodd y llys fod y cyhuddiadau'n ymwneud ag 16 o achwynwyr, mor ifanc â naw oed.

Mewn datganiad blaenorol dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi ymchwilio i adroddiadau o gam-drin rhywiol a chorfforol yn bennaf yng Nghanolfan Asesu Coed Glas, Y Fenni.

Rhan o Ganolfan Asesu Coed Glas, Y Fenni - adeilad brics llwyd - a llefydd parcio o'i flaenFfynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â throseddau honedig yng Nghanolfan Asesu Coed Glas, Y Fenni rhwng y 1970au a'r 1990au

Mae Mr Riddell wedi cael ei gyhuddo o 38 o droseddau, gan gynnwys cyhuddiadau o ymosod yn anweddus ar ferch o dan 16.

Mae hefyd yn wynebu cyhuddiadau o ymosod yn anweddus ar fachgen o dan 14 oed.

Mae Mr Griffiths wedi cael ei gyhuddo o saith cyhuddiad, gan gynnwys o ymosod yn anweddus ar fachgen o dan 14 oed.

Mae disgwyl i'r achos yn eu herbyn dechrau ar 18 Ionawr 2027 a phara am dri mis.

Fe wnaeth y barnwr Tracey Lloyd-Clarke ryddhau'r ddau ar fechnïaeth amodol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.