Corff dyn wedi'i ganfod ar arfordir Sir Benfro

Cafodd corff dyn ei ddarganfod yn ardal Maenorbŷr
- Cyhoeddwyd
Mae corff dyn wedi cael ei ddarganfod ar arfordir Sir Benfro yn dilyn ymgyrch gan y gwasanaethau brys.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod swyddogion wedi cael eu galw i ardal Maenorbŷr tua 11:00 ddydd Gwener ar ôl i bryderon gael eu codi am les person.
"Yn anffodus, cafwyd hyd i gorff dyn yn ystod yr ymgyrch chwilio," meddai llefarydd.
Roedd hofrennydd Gwylwyr y Glannau a badau achub o Ddinbych-y-pysgod hefyd yn rhan o'r ymgyrch.
Mae ymholiadau'r llu yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.