Lloyd Williams yn dechrau wedi bwlch o bedair blynedd

  • Cyhoeddwyd
Lloyd WilliamsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Lloyd Williams yn ennill cap rhif 30 yn erbyn Iwerddon

Bydd y mewnwr Lloyd Williams yn dechrau gêm i Gymru am y tro cyntaf ers pedair blynedd yn erbyn Lloegr ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn.

Bydd yn bartner i Dan Biggar yn yr hanneri, ond bydd Liam Williams yn absennol oherwydd anaf i'w wyneb gyda Leigh Halfpenny'n camu i safle'r cefnwr.

Tri fydd yn dechrau gêm yw'r asgellwr Louis Rees-Zammit, y canolwr Johnny Williams a'r blaenasgellwr James Botham wedi i'r tri gymryd eu cyfleoedd yn erbyn Georgia.

Mae'r prif hyfforddwr Wayne Pivac wedi gwneud wyth newid i'r tîm enillodd y gêm honno.

Tachwedd 2016 yn erbyn Japan oedd y tro diwethaf i Lloyd Williams ddechrau i Gymru cyn cael ei alw nôl i'r garfan gan Pivac ar gyfer gêm yr Alban yn ddiweddar.

Mae George North wedi cael ei rhyddhau o'r garfan i ddychwelyd i'w glwb y Gweilch.

Bydd y gêm yn erbyn Lloegr yn penderfynu safleoedd terfynol Grŵp A, a phwy fydd eu gwrthwynebwyr wythnos yn ddiweddarach.

Tîm Cymru: Halfpenny; Adams, Tompkins, J Williams, Rees-Zammit; Biggar, Lloyd Williams; W Jones, Elias, Lee, Ball, Alun Wyn Jones (capten), Lewis-Hughes, Botham, Faletau.

Eilyddion: Dee, Carre, Francis, Rowlands, Wainwright, Webb, Sheedy, Watkin.