'Annheg' pe bai arholiadau i gyrsiau galwedigaethol
- Cyhoeddwyd
Mae'n annheg y gallai rhai dysgwyr cyrsiau galwedigaethol orfod sefyll arholiadau fel yr arfer y flwyddyn nesaf, yn ôl Colegau Cymru.
Mae hyn er gwaetha'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod arholiadau TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch wedi'u canslo yn 2021.
Yn ogystal mae 'na bryder nad yw "miloedd" o ddysgwyr galwedigaethol wedi gallu cwblhau eu cyrsiau ers y llynedd oherwydd yr heriau o orffen eu profiad gwaith gorfodol yn ystod y pandemig.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod wedi gofyn i Gymwysterau Cymru weithio gyda rheoleiddwyr eraill i sicrhau mai buddiannau dysgwyr sy'n cael y flaenoriaeth.
Colli arholiadau eleni
Mae Ifan Phillips, 20 oed o Grymych, yn brentis trydanol yng Ngholeg Sir Benfro. Fel arfer mae'n treulio diwrnod yr wythnos yno.
Yn ogystal â bod ar gyfnod o ffyrlo am ddeufis, dywedodd Ifan ei fod wedi colli allan ar waith coleg rhwng mis Mawrth a Gorffennaf eleni, gan gynnwys colli un arholiad.
Bydd Ifan yn gorfod sefyll yr arholiad yna fis Mawrth neu fis Mai y flwyddyn nesa', yn ogystal â'i arholiadau eraill.
Mae'n siomedig ei fod yn gorfod gwneud hynny er gwaetha'r ffaith bod arholiadau TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch wedi eu canslo.
"Pan ddechreues i'r cwrs prentisiaeth o'n i'n gwybod bydde'n rhaid i fi 'neud rhai arholiadau - o'n i'n ymwybodol o hynny - ond wedyn pan dda'th y newyddion bod pobl TGAU ac AS ddim yn gorfod gwneud eu harholiadau nhw, o'n i'n meddwl falle bydde hynny'n effeithio arna i hefyd," meddai.
"Ond yn amlwg dwi wedi bod yn siarad 'da'r coleg ac mae'n dal rhaid i ni 'neud yr arholiadau yna flwyddyn nesa."
'Pryderon gwirioneddol'
Mae pennaeth Colegau Cymru, Iestyn Davies yn dweud ei bod yn annheg i ddisgwyl bod rhai dysgwyr sy'n gwneud cyrsiau NVQ a BTEC yn gorfod sefyll arholiadau wedi cyfnod ansicr y pandemig.
"Yn amlwg rydym am sicrhau bod dysgwyr yn cael yr un profiad a chefnogaeth â'u cyfoedion sy'n gwneud Safon Uwch a TGAU," meddai.
"Ar hyn o bryd mae gyda ni bryderon gwirioneddol rydyn ni am godi gyda'r cyrff dyfarnu a'r rheolyddion."
Mae ffigyrau'n awgrymu bod tua dwywaith gymaint o bobl 16-18 oed wedi cofrestru mewn colegau addysg bellach na sy'n mynychu ysgolion uwchradd yng Nghymru.
Ar hyn o bryd mae 22,000 o gyrsiau galwedigaethol gwahanol ar gael yng Nghymru, wedi'u dyfarnu gan 97 o wahanol gyrff.
Mae Colegau Cymru'n codi pryderon bod miloedd o fyfyrwyr wedi gorfod oedi cyn gorffen eu cwrs.
Mae wedi bod yn anodd iawn i ddysgwyr o fewn sawl sector, gan gynnwys gofal plant, gofal iechyd, lletygarwch a harddwch.
"'Da ni'n brwydro i sicrhau ein bod ni'n dod i ben â chyrsiau addysgu y flwyddyn ddiwetha' a bo' ni'n sicrhau bod 'na ffordd ymlaen er mwyn osgoi'r bod yr un broblem yn digwydd y flwyddyn yma," meddai Mr Davies.
'Amharu'n sylweddol ar fyfyrwyr'
Yn ôl Dr Lowri Morgans o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol - sy'n arbenigo mewn addysg bellach a phrentisiaethau - mae nifer o ddysgwyr yn parhau i geisio dal i fyny gyda'u gwaith cwrs.
"O'n i'n siarad 'da un coleg yn ddiweddar oedd yn sôn bod dros 500 o brentisiaid gyda nhw oedd fod i gwblhau ym mis Gorffennaf, ond 'dyn nhw dal heb gwblhau ac felly'n dal yn astudio eleni gyda nhw," meddai.
"Os ydych chi'n ystyried y cyrsiau galwedigaethol, y rhai mwy ymarferol er enghraifft - gwaith plymio, gwaith adeiladwaith - dy'ch chi ddim yn gallu rhoi gradd iddyn nhw ar ddiwedd y cwrs heb brofi eu bod nhw'n gallu gwneud y gwaith ymarferol hynny."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod cymwysterau galwedigaethol yn cael eu dyfarnu gan sefydliadau yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr a'u bod "wedi gofyn i Gymwysterau Cymru weithio gyda rheoleiddwyr eraill i sicrhau bod y dull o weithredu arholiadau 2021 yn rhoi buddiannau dysgwyr yn gyntaf".
"Rydym yn cydnabod bod coronafeirws wedi amharu'n sylweddol ar fyfyrwyr sy'n dilyn cymwysterau sydd angen lleoliadau gwaith," meddai.
Ychwanegodd y llefarydd bod y llywodraeth yn cydweithio gyda cholegau yng Nghymru ac wedi darparu hyd at £5m i gefnogi'r dysgwyr hynny eleni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2020