'Oes angen arholiadau TGAU o gwbl?' medd comisiynwyr

  • Cyhoeddwyd
Three students in marks sit at tablesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd asesiadau TGAU, UG a Safon Uwch yn cael eu cwblhau yn y dosbarth o dan oruchwyliaeth athro

Dylai adolygiad gael ei gynnal ar ddyfodol arholiadau TGAU, medd dau gomisiynydd.

Yn ôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Comisiynydd Plant yng Nghymru, dylai canslo arholiadau TGAU 2021 oherwydd Covid-19 godi cwestiynau am eu dyfodol.

Mae'r ddau gomisiynydd yn gofyn a ydy arholiadau yn 16 oed yn "berthnasol bellach" pan fod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn astudio at arholiadau Safon Uwch.

Dywed grŵp sy'n cynrychioli busnesau eu bod yn parhau i fod yn arf defnyddiol i gyflogwyr.

Mae disgwyl trafodaeth yn y Senedd ddydd Iau ar ganslo arholiadau blwyddyn nesaf wrth i Cymwysterau Cymru, CBAC, arweinwyr colegau a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru roi tystiolaeth.

'Rhaid cael sgiliau bywyd'

Dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe: "Wrth edrych ar sgiliau ar gyfer y dyfodol, dyw chwydu rywfaint o wybodaeth y mae rywun wedi'i ddysgu ddim o ddefnydd.

"Rhaid i ni ganolbwyntio ar sgiliau bywyd fel creadigrwydd, deallusrwydd emosiynol, empathi a meddwl yn ddadansoddol.

"Fydden i'n dadlau nad yw TGAU yn galluogi plant i wneud hynny."

Ond mae'n dweud bod cwestiynau i'w holi am effaith posib cael trefn arholiadau gwahanol i Loegr a gweddill y DU.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y Gweinidog Addysg ei chyhoeddiad terfynol ddydd Mawrth yn y Senedd

Ychwanegodd Ms Howe: "Ry'n ni angen trafodaeth ehangach ar arholiadau TGAU - ry'n yn gorfodi y drefn ar ein plant, ond pam?

"Mae plant yn gadael yr ysgol heb y sgiliau sydd eu hangen yn y gweithle."

Mae Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, hefyd wedi croesawu y penderfyniad i ganslo arholiadau y flwyddyn nesaf ac yn dweud y gallai fod yn sbardun i adolygu y drefn bresennol.

Mae arolwg ymhlith 24,000 o blant ar draws Cymru wedi amlygu pryderon am fod ar ei hôl hi gyda gwaith ysgol ac effaith hynny ar ganlyniadau arholiadau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Comisiynydd Plant Sally Holland bod y Llywodraeth wedi gwrando ar lais disgyblion

Dywed Ms Holland: "Rwy'n falch bod llais a hawliau plant wedi chwarae rhan mor ganolog ym mhenderfyniad y llywodraeth.

"Fe fydd fy mhwyslais i ar sicrhau bod y broses yn un deg ac yn un a fydd yn amddiffyn lles pobl ifanc.

"Mae angen i hon fod yn flwyddyn o addysgu, nid pryder."

Mae swyddfa Ms Holland hefyd wedi dweud wrth y Llywodraeth bod y pandemig wedi cynnig "cyfle i Gymru adolygu ai arholiadau swyddogol yw'r ffordd orau i asesu sgiliau, gwybodaeth a chyflawniadau addysgwyr."

'Cefnogi arholiadau'

Dywed Jonathon Dawes o'r Rhyl sy'n astudio at arholiadau Safon Uwch yng Ngholeg Cambria ac sydd hefyd yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru bod symudiad tuag at gael gwared ar arholiadau yn ei boeni.

"Rwy'n gefnogwr i'r syniad o gael arholiadau - maent yn profi gallu i ddelio â phwysau, i feddwl yn wahanol ac i werthuso mewn ffordd arbennig.

"Iawn efallai bod yna elfen o lwc o ran pethau'n mynd yn iawn ar y diwrnod ond y broblem gyda asesu parhaol yw y bydd pwysau gydol y flwyddyn."

Dywed Jonathon hefyd bod adolygu ar gyfer arholiadau wedi ei helpu i ddeall pynciau y mae wedi eu hastudio yn gynharach yn y flwyddyn yn well wrth iddo orfod edrych ar y gwaith eto.

Beth yw barn cyflogwyr?

Dywed Ffederasiwn y Busnesau Bach bod y system arholiadau yn ddull y mae cyflogwyr yn ei deall ac yn ei gydnabod.

Dywedodd Ben Cottam, Pennaeth Materion Allanol y Ffederasiwn: "Os oes yna benderfyniad i gael gwared ar arholiadau yna byddai rhaid cael system debyg a fyddai'n arddangos sgiliau a gwybodaeth.

"Be mae busnesau ei angen yw gallu rhoi barn ar addysg, gwybodaeth a chyrhaeddiad darpar aelod o staff.

"Beth bynnag a ddaw, rhaid i fusnesau a disgyblion gael sicrwydd bod y broses yn gadarn ac yn un y gellid cael hyder ynddi."