Dyblu nifer llofnodion cyn trafod deiseb yn y Senedd

  • Cyhoeddwyd
senedd

Bydd angen miloedd yn fwy o lofnodion o hyn ymlaen ar ddeisebau i'w hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd.

Mae Pwyllgor Deisebau'r Senedd wedi penderfynu y dylai'r trothwy presennol o 5,000 o lofnodion gynyddu i 10,000.

Dywedodd llefarydd y daw hyn oherwydd "cynnydd digynsail yn nifer y deisebau", a gostyngiad yn yr amser sydd ar gael i drafod yn y Senedd yn sgil y pandemig.

Mae pob deiseb sydd â thros 50 o lofnodion yn cael ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau.

Cynnydd digynsail

Mae dadleuon diweddar sydd wedi eu trafod yn y Senedd yn cynnwys galw ar ddisgyblion Cymru i ddysgu mwy am hanes pobl ddu, a phryderon am gynlluniau dadleuol i symud mwd o'r arfordir ger gorsaf niwclear Hinkley Point i Fae Caerdydd.

Roedd 68,000 o lofnodion hefyd ar ddeiseb yn galw am newid y penderfyniad i wahardd siopau rhag gwerthu eitemau nad oedd yn hanfodol yn ystod y cyfnod clo byr diweddar.

Dyna oedd y ddeiseb fwyaf i'r Senedd ei derbyn hyd yn hyn, ac fe fu drafodaeth ym Mae Caerdydd yn y dyddiau wedi i'r gwaharddiad ddod i ben.

Disgrifiad o’r llun,

Janet Finch-Saunders yw cadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd

Wrth siarad yn y Senedd yn ystod y ddadl honno, dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Deisebau y byddai'r aelodau'n pwyllgor yn "ystyried yr un nifer o ddeisebau newydd yn ystod 2020 ag yn y tair blynedd a hanner ddiwethaf gyda'i gilydd."

Ychwanegodd Janet Finch-Saunders AS ei bod hi'n glir "bod nifer cynyddol o bobl yn ymwneud gyda'r Senedd a gwleidyddiaeth datganoledig, drwy'r broses ddeisebau.

"Rwy' o'r farn y gallai hynny ond fod yn beth cadarnhaol i ddemocratiaeth."

'Blaenoriaeth i faterion brys'

O'r 99 deiseb gyfredol, does yr un gyda mwy na 10,000 o lofnodion, a dim ond chwech sydd wedi cael mwy na 5,000.

Dywedodd llefarydd ar ran Pwyllgor Deisebau'r Senedd: "Mae'r pandemig coronafeirws, yn ogystal â gwefan deisebau newydd y Senedd, wedi golygu cynnydd digynsail yn nifer y deisebau sy'n cael eu derbyn, gan gynnwys rhai â thros 5,000 o lofnodion.

"Fodd bynnag, mae amser trafod yn brin, yn enwedig yn ystod y pandemig gyda materion brys yn cael blaenoriaeth.

"Mae hyn yn ei gwneud hi'n fwy anodd i'r pwyllgor gyflawni gofynion y dadleuon, ac felly mae wedi penderfynu cynyddu'r trothwy i 10,000 llofnod i bob deiseb sydd yn cau ar ôl Rhagfyr 1 2020.

"Bydd y pwyllgor yn parhau i weithio'n galed i ystyried pob deiseb gyda thros 50 o lofnodion, gan gynnwys sicrhau eu bod yn cael ymateb Llywodraeth Cymru."