Arweinydd Conwy yn beirniadu rheolau lletygarwch

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CastellFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl arweinydd Conwy, mae'r sector lletygarwch yn cyflogi 10,000 yn y sir.

Mae arweinydd y cyngor sir gyda'r gyfradd isaf o achosion Covid-19 yng Nghymru wedi beirniadu rheolau cenedlaethol sy'n cael eu gosod ar y diwydiant lletygarwch yng Nghymru.

Dywed Sam Rowlands, arweinydd cyngor Conwy, ei fod yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu polisïau cenedlaethol yn hytrach nag ystyried mesurau mwy lleol.

Mae Lloegr wedi mabwysiadau gwahanol fesurau - tair haen wahanol - ar gyfer gwahanol ardaloedd.

Ddydd Gwener dywedodd Mark Drakeford y byddai un set o reolau yn ei gwneud yn haws i bobl eu dilyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dyw Coronafeirws ddim yn parchu ffiniau siroedd, pe bai hynny yng Nghymru neu thu hwnt.

"Mae angen i ni ddefnyddio'r wythnosau nesa i leihau ymlediad yr haint ac i greu gofod ar gyfer cyfnod y Nadolig ar gyfer Cymru gyfan."

Dros y saith diwrnod diwethaf mae Cyngor Sir Conwy wedi gweld llai na 20 o achosion am bob 100,000 o bobl. Mae hynny'n cymharu â chyfartaledd cenedlaethol o 189.8 ar gyfer pob 100,000 yng Nghymru.

Mewn llythyr agored at y prif weinidog dywedodd Mr Rowlands ei fod yn datgan ei "siom am y cyhoeddiad fod Cymru gyfan i weld rhagor o gyfyngiadau yn y sector lletygarwch".

Dywed Mr Rowlands fod 10,000 o bobl yn cael eu cyflogi mewn lletygarwch yn Sir Conwy.

"Does yna ddim pryder sylweddol am y sector yma, gan fod unrhyw ledaenu o'r feirws rydym ni yn ei weld yn digwydd o fewn aelwydydd," meddai'r cynghorydd Ceidwadol.

"Rwy'n siomedig iawn i glywed heddiw nad ydych yn ystyried gwahaniaethau rhanbarthol o ran risg y feirws o ran y cyfyngiadau rydych yn ei ystyried cyn y Nadolig."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mark Drakeford fod polisiau cenedlaethol yn haws i'w deall a'u dilyn

Fe wnaeth tafarndai a thai bwyta ailagor yng Nghymru ar ôl cyfnod clo byr o 17 diwrnod, ac hyn o bryd mae'n rhaid iddynt gau am 22:00.

Fe fydd y cyfyngiadau newydd sydd heb eu cwblhau eto, yn dod rym ar 4 Rhagfyr.

Ddydd Gwener fe wnaeth Mr Drakeford wrthod y syniad o osod gwahanol ardaloedd o Gymru mewn haenau - fel yn yr Alban a Lloegr.

Dywedodd fod patrwm ymledu'r feirws yn debyg iawn drwy Gymru.

Roedd 21 o'r 22 o gynghorau, meddai, yn gweld cynnydd o achosion ymhlith y rhai dan 25 oed.

Yn ôl Mr Drakeford mae'r patrwm yn "dechrau ymhlith pobl ifanc ac yna yn symud i grwpiau hŷn a mwy bregus."

"Felly hyd yno oed pan mae cyfraddu yn is mewn rhai rhannau o Gymru, mae'n bwysig amddiffyn y grwpiau hyn."