Cyfyngiadau Covid-19 newydd i gael eu cyflwyno yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfyngiadau newydd ar dafarndai a bwytai yn cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru'r wythnos nesaf.
Dywedodd y prif weinidog na fyddai'n golygu dychwelyd i fesurau'r clo byr diwethaf, ond bod angen gweithredu er mwyn arafu lledaeniad Covid-19 cyn y Nadolig.
Dywedodd Mr Drakeford y byddai lleoliadau adloniant dan do, fel sinemâu, yn cau er nad oes dyddiad wedi ei gadarnhau eto.
Hefyd, bydd cyfyngiadau ar dafarndai a bwytai yn dod i rym ddydd Gwener nesaf.
Y gred yw bod model tebyg i fodel Haen 3 Yr Alban - lle nad yw alcohol yn cael ei werthu a bariau yn cau am 18:00 - yn cael ei ystyried.
Dywedodd Mr Drakefrod nad yw "wedi gorffen" trafodaethau gyda'r diwydiant, ac y bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi ddydd Llun.
Ond fe fydd y rheolau'n berthnasol i bob rhan o Gymru.
Cafodd 1,105 o achosion positif pellach eu cofnodi ddydd Gwener, gyda 21 o farwolaethau pellach hefyd wedi eu cadarnhau.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 150 o'r achosion yng Nghaerdydd, 128 yn Abertawe a 108 yn Rhondda Cynon Taf.
Bydd siopau, salonau trin gwallt, canolfannau hamdden a champfeydd yn aros ar agor am y tro.
Dywedodd Mr Drakeford bod y rhif R - cyfradd heintio'r coronafeirws - wedi codi i 1.4, sy'n golygu bod yr haint yn lledaenu.
"Rhaid i ni nawr ddefnyddio'r wythnosau sy'n dod i atal lledaeniad y feirws a chreu mwy o le ar gyfer cyfnod y Nadolig," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn deall y byddai'r cyfyngiadau'n bryder i fusnesau lletygarwch, a bod y llywodraeth yn gweithio ar becyn cymorth i'r sector.
'Dim system haenau'
Er nad oedd am roi manylion ddydd Gwener, fe wnaeth Mr Drakeford wrthod y syniad o gyflwyno system o haenau o gyfyngiadau, fel yn Yr Alban a Lloegr.
"Yr hyn ry'n ni wedi ei wneud yw cynllunio system ry'n ni'n meddwl sy'n gweithio i'n sefyllfa, i'n ffigyrau; ac i gadarnhau, y cyngor i ni yw mai un set o reolau yn gweithio orau i Gymru, sydd hawsaf i gyfathrebu, ac sy'n elwa Cymru gyfan."
Dywedodd bod patrwm y lledaeniad yng Nghymru yn eithaf tebyg drwy'r wlad, gyda chynnydd mewn achosion mewn pobl dan 25 oed mewn 21 allan o 22 cyngor.
Mae'r patrwm drwy'r pandemig wedi dangos bod Covid-19 "yn dechrau ymysg pobl ifanc cyn symud i bobl hŷn a mwy bregus", meddai.
Mae holl wledydd y DU wedi cytuno ar reolau ar gyfer y Nadolig sy'n caniatáu i dair aelwyd gyfarfod dan do am gyfnod penodol.
Clo byr wedi methu?
Pan ofynnwyd a oedd y cyfyngiadau newydd yn arwydd nad oedd y clo byr diwethaf wedi gweithio, dywedodd Mr Drakeford nad dyna oedd y gwir.
Dywedodd bod y clo byr, ddaeth i ben ar 9 Tachwedd, wedi "llwyddo i wneud popeth yr oedden ni'n ei obeithio", a hyd yn oed "ychydig yn fwy na'r disgwyl" wrth atal y feirws.
"Y broblem yn y cyfnod ar ôl y clo byr, wrth i bobl gymysgu, ydy ei fod wedi dod yn ôl yn gynt na'r disgwyl, a dyna pam ry'n ni'n cymryd y camau ychwanegol dwi wedi eu hamlinellu heddiw."
Ychwanegodd nad oes modd diystyru clo byr arall yn y dyfodol.
'Mwy o ansicrwydd'
Dywedodd Plaid Cymru bod y cyfyngiadau'n creu "mwy o ansicrwydd" i fusnesau lletygarwch.
Yn ôl Helen Mary Jones AS, llefarydd economi'r blaid, mae'r diffyg gwybodaeth yn golygu nad ydy busnesau'n gwybod at beth y dylen nhw baratoi.
"Efallai mai cyfyngiadau yw'r peth cywir i'w wneud ond mae angen i Lywodraeth Cymru ymgynghori gyda'r sector yn iawn dros y penwythnos... yn enwedig busnesau o Gymru dwi'n siarad â nhw sydd ddim yn teimlo eu bod yn cael eu clywed."
Er hynny, dywedodd "yn sicr mae'n rhaid gwneud rhywbeth" yn sgil y ffigyrau coronafeirws diweddaraf.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru y byddai'r rheolau'n "ergyd go iawn i fusnesau di-ri'" dros Gymru.
"Mae angen i ni wybod y manylion gan Lywodraeth Cymru oherwydd bydd hyn yn achosi mwy o bryder i fusnesau sy'n cael trafferth goroesi", meddai Paul Davies AS.
Dywedodd eto bod ei blaid yn galw am dargedu lleoliadau penodol yn lle'r wlad gyfan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2020