Tafarndai a bwytai'n 'ofni cyfyngiadau cyn Nadolig'
- Cyhoeddwyd
Mae yna rybudd y byddai tynhau cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru cyn y Nadolig yn gwneud pethau'n "anodd eithriadol" i fusnesau lletygarwch.
Daw wedi i'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething ddweud bod rheolau newydd yn bosib os fydd cyfraddau heintio'n "symud i'r cyfeiriad anghywir".
Bydd rheolau llymach yn dod i rym yn Lloegr wythnos nesaf, ac mae cabinet Llywodraeth Cymru'n cwrdd i ystyried y camau nesaf yma.
Mae'r heddlu yng Nghaerdydd wedi cael pwerau ychwanegol i archwilio cerbydau i sicrhau nad yw ymwelwyr yn torri rheolau Covid-19 trwy deithio o ardaloedd clo dros y ffin er mwyn cymdeithasu.
Cyfyngiadau'n 'berffaith bosib'
Mewn ymateb i gwestiwn ar raglen Question Time nos Iau, dywedodd Mr Gething fod cyfyngiadau llymach "yn berffaith bosib a dyw hynny ddim yn rhywbeth rwy'n ei ddathlu".
"Wnes i 'rioed fynd i'r maes gwleidyddol i ymyrryd yn y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau fel hyn, ond os na wnawn ni rywbeth, byddwn yn sefyll i'r naill ochor wrth i bobl gael niwed a ni allwn wneud hynny.
"Os yw niferoedd achosion yn symud i'r cyfeiriad anghywir, fe allwn ni orfod gwneud rhywbeth gwahanol."
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford eisoes wedi dweud ei fod yn ystyried cyfyngiadau llymach yng Nghymru, tebyg i reolau'r haenau uchaf yn Lloegr a'r Alban.
Dywedodd sylfaenydd y Welsh Independent Restaurant Collective wrth raglen Breakfast BBC Radio Wales ddydd Gwener bod y sector lletygarwch angen eglurder cyn cyfnod y Nadolig.
"Mae wedi bod yn flwyddyn o frwydro mawr, stopio ac ailgychwyn, ond stopio, yn bennaf," meddai Simon Wright, sy'n rhedeg bwyty yng Nghaerfyrddin.
"Rydym ar drothwy adeg y flwyddyn pan fo pobl yn disgwyl fod ar eu prysuraf. Doedden ni ddim yn rhagweld hyn wedi'r clo byr - methu masnachu cyn Nadolig.
"Pe bai rhywbeth fel 'na'n digwydd, mae'n mynd i fod yn ergyd anferthol.
"Mae yna gryn anesmwythder o amgylch Cymru bore 'ma ymhlith busnesau a staff lletygarwch."
Pwerau i'r heddlu
Bydd pwerau ychwanegol Heddlu De Cymru mewn grwm yng Nghaerdydd rhwng 09:00 ddydd Gwener a 17:00 ddydd Sul.
Dywed y llu y bydd rhagor o swyddogion ar ddyletswydd, gan annog pobl i ddilyn y rheolau.
Fe allai ymwelwyr sy'n tramgwyddo'r rheolau gael eu dirwyo a'u gorchymyn i adael y ddinas.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad oes ymgyrch arbennig ar gyfer y penwythnos, ond bod "ymgyrch barhaus, sy'n targedu teithiau anghyfreithlon ymysg mathau eraill o dorri cyfyngiadau" yn parhau.
Beth ydy ymateb y pleidiau eraill?
Ar raglen Question Time, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price bod angen i bolisïau iechyd ac economaidd "weithio ar y cyd", yn enwedig os yw Llywodraeth Cymru'n ystyried rheolau llymach yn achos tafarndai a bwytai.
"Os ydyn nhw'n cau busnesau, hoffwn weld Llywodraeth Cymru'n darparu lefel uwch o gefnogaeth i'r busnesau hynny i'w helpu i segura dros y gaeaf a goroesi'r cyfnod anodd yma."
Fore Gwener, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig mai ei "bryder go iawn" oedd y byddai'n rhaid i bobl Cymru addasu i'r "pedwerydd neu bumed set o gyfyngiadau o fewn deufis" pe bai rheolau newydd.
"Yr hyn ddylen ni fod yn ei wneud ydy amddiffyn y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas... targedu'r profi... a chael ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus cryf."
Ychwanegodd bod rheolau llymach ble mae cyfraddau uwch "yn benderfyniad synhwyrol", ond bod "cloi Cymru gyfan mewn model haen 3 [y cyfyngiadau mwyaf llym yn Lloegr]... dydy hynny ddim yn gwneud synnwyr o gwbl".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2020