Achos llofruddiaeth: Dyn 'wedi crogi ei ddyweddi'

  • Cyhoeddwyd
Lauren GriffithsFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Arhosodd Madog Rowlands 24 awr cyn cysylltu â'r gwasanaethau brys

Clywodd llys yng Nghasnewydd bod dyn wedi crogi ei ddyweddi yn eu fflat a gorchuddio'i chorff mewn cling film a leinars biniau cyn archebu bwyd parod.

Mae Madog Rowlands, 23, o Goed Efa yn New Broughton, Wrecsam, yn gwadu llofruddio Lauren Griffiths, 21, yn fflat ar Stryd Glynrhondda, Cathays yng Nghaerdydd.

Cafodd ei chorff ei ddarganfod am oddeutu 18:30 ar 30 Ebrill, 2019.

Dydd Mawrth clywodd rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd bod ei chorff wedi bod yna am ddiwrnod cyn cael ei ddarganfod, ac nad oedd Rowlands wedi galw 999 am 24 awr.

Yn hytrach, clywodd y llys ei fod wedi gorchuddio'i chorff yn rhannol gyda cling film cyn archebu bwyd parod a cheisio creu cyfrif Netflix.

Dywedodd yr erlynydd Michael Jones QC, wrth agor yr achos yn Llys y Goron Casnewydd: "Ar 29 Ebrill y llynedd, llofruddiodd y diffynnydd Madog Rowlands ei gariad Lauren Griffiths trwy ei chrogi'n fwriadol yn ei chartref yn ardal Cathays, Caerdydd.

"Yn ystod yr achos byddwch chi'n clywed i'r diffynnydd ddweud ei fod wedi ei chrogi gyda'i ddwylo dros ei gwddf.

"Yn ystod yr alwad 999 dywedodd wrth y person ar y ffôn bod Lauren wedi marw a'i fod e'n gyfrifol, a'i fod wedi ei chrogi hi ar ddamwain.

"Er hyn, ar ôl lladd Lauren yn ddamweiniol fel y mae'n dweud, ni alwodd y diffynnydd 999 ar unwaith.

"Bydd y dystiolaeth yn ystod yr achos yn dangos yn yr amser ar ôl lladd, aeth i brynu eitemau o siopau, gorchuddiodd hi'n rhannol mewn cling film, Sellotape a leinars biniau, cymryd arian o'i gyfrif ei hunain yn ogystal ag un Lauren, archebu cyffuriau, archebu bwyd parod i'w hunan yn cynnwys Subway a Domino's, a cyn i'r pizza gyrraedd ceisiodd greu cyfrif Netflix ar ei ffôn symudol.

"Dim ond 24 awr ar ôl ei lladd hi y cysylltodd y diffynnydd â'r gwasanaethau brys ac adrodd ei bod hi wedi marw."

Mae Rowlands yn gwadu llofruddiaeth ac mae'r achos yn parhau.