'Amhosib cadarnhau amserlen brechu mewn cartrefi gofal'
- Cyhoeddwyd

Mae'n amhosib cadarnhau pa bryd fydd modd brechu trigolion cartrefi gofal rhag coronafeirws, medd Prif Swyddog Meddygol Cymru.
Gyda'r angen i'w storio a'i gludo ar dymheredd eithriadol o isel, bydd mynd â'r brechlyn Pfizer/BioNTech, sydd newydd ei gymeradwyo, i gartrefi gofal yn "anodd iawn", medd Dr Frank Atherton, ond mae "gwaith yn mynd rhagddo" i sicrhau bod hynny'n digwydd.
Y bwriad, meddai yng nghynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru, yw dilyn rhestr flaenoriaeth pedair gwlad y DU.
Ond pwysleisiodd yr angen i ystyried "pryderon gweithredol... rwy'n meddwl y byddai'n gywilyddus i wastraffu'r brechlyn yma a pheidio â'i ddefnyddio'n ddoeth".
"Rydym ar hyn o bryd yn archwilio ffyrdd o geisio cael brechlynnau i breswylwyr cartrefi gofal - yn sicr fydd staff gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth uchel iawn.
"Rydym yn edrych ar ffyrdd i weithio o gwmpas hynny, ond yn dechnegol mae'n eithaf anodd ei gyflawni, gyda chymaint o gartrefi gofal ar draws y wlad, ac mae model dosbarthu'r brechlyn arbennig yma... angen nifer fach o leoliadau brechu."
Oherwydd yr heriau storio, bydd yn cael ei ddarparu i nifer cyfyngedig o safleoedd yn y lle cyntaf, meddai Dr Atherton
"Wrth gwrs mae brechlynnau eraill ar y gweill - brechlyn Oxford, er enghraifft, nad oes ganddo ofynion mor llym o ran rheoli tymheredd," meddai.
"Wrth i hynny ddod ar-lein, fel rydyn ni'n gobeithio, bydd hynny'n rhoi gallu pellach i ni weithio ein ffordd trwy'r rhestrau blaenoriaeth hynny.
"Ni allaf roi union ddyddiad nag amserlen, ond rydym yn gweithio trwy'r broses honno cyn gynted ag y gallwn, achos mae'r preswylwyr oedrannus hynny... fel arfer, mewn cartrefi gofal, yn un o'n blaenoriaethau uchaf."

Dr Frank Atherton a Dr Gill Richardson yn ymhelaethu ar y cyhoeddiad ynghylch brechlyn Pfizer/BioNTech, y gynhadledd ddydd Mercher
Yn yr un gynhadledd, dywedodd prif gynghorydd Dr Atherton, Dr Gill Richardson, fod dau safle wedi eu dewis ar gyfer storio'r brechlyn yng Nghymru, i sicrhau bod modd ei ddosbarthu gynted â phosib i'r GIG.
Nid oedd am gadarnhau ble mae'r safleoedd hynny, ond dywedodd eu bod wedi "edrych yn ofalus" ar adnoddau storio a "hawster dosbarthu fel ein bod yn gallu cael y brechlyn yma cyn gyflymed â phosib i'r staff brechu fydd ei angen ymhob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd".
Ychwanegodd: "Yn ystod wythnos gyntaf un y rhaglen frechu, byddwn ni'n dod â phobl at y brechlyn a bydd hynny'n cynnwys staff cartrefi gofal.
"Yna, wrth i ni ddysgu mwy am y brechlyn... ry'n ni'n gobeithio'n fawr y bydd modd datblygu model symudol inni allu ei ddanfon yn ddiogel i gartrefi gofal heb roi preswylwyr mewn perygl trwy fynd â nhw'n ddiangen i ganolfan."

Rhybuddiodd Dr Atherton mai "dim ond ymhen amser" y bydd hi'n hysbys a fydd brechlyn Pfizer/BioNTech yn atal trosglwyddiad Covid-19.
Mae'r data hyd yma'n awgrymu ei fod "yn eithaf da", meddai, o ran atal pobl rhag cael eu heintio a chael eu taro'n ddifrifol wael.
Pwysleisiodd bwysigrwydd y cyfyngiadau presennol, a mesurau iechyd sylfaenol, fel golchi dwylo, cadw pellter a gwisgo masgiau, hyd yn oed wedi dechrau'r rhaglen frechu.
"Mae hyn yn dal yn mynd i fod yn aeaf anodd. Mae'r GIG yn mynd i fod dan bwysau. Mae dan bwysau nawr.
"Mae'n wirioneddol bwysig nad ydyn ni'n taflu enillion y flwyddyn ddiwethaf pan fo'r golau nawr ar ddiwedd y twnnel."
Dywedodd Dr Richardson nad yw'n rhagweld angen i fusnesau lletygarwch yng Nghymru wrthod cwsmeriaid os nad ydyn nhw'n gallu profi eu bod wedi cael brechlyn.
Mae yna gynlluniau "ar lefel y DU", meddai, i bobl gael cerdyn yn cofnodi eu bod wedi cael eu brechu.
Dywedodd mai'r gobaith yw y bydd pobl yn dewis cael eu brechu, ond bod dim rhaid gwneud.
Galw am weinidog penodol
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Andrew RT Davies wrth BBC Cymru yr hoffai weld penodi gweinidog gyda chyfrifoldeb penodol am y rhaglen frechu.
"Mae'r Gweinidog Iechyd yn ddigon prysur fel ag y mae hi," meddai.
"Yr hyn sydd angen yw gweinidog i ganolbwyntio'n llwyr ar ddelifro'r brechlyn yma yng Nghymru, oherwydd ry'n ni eisoes yn gwybod y bydd mathau gwahanol o frechlyn sydd angen dulliau gwahanol o ddosbarthu.
"Rwy'n credu bod dyletswydd ar y prif weinidog i roi gweinidog yng ngofal hyn... er y byddwn yn dechrau gyda rhaglen gyfyng mae'n mynd i fod yn rhaglen anferthol pan fydd yn dechrau, a gallwn ni ddim fforddio camgymeriadau."
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru: "Rhowch amserlen i ni... fe fyddwn i wedi meddwl o'r eiliad y daeth y sêl bendith [i'r brechlyn] - sef lle ydan ni nawr - fe fyddai yna amserlen.
"Faint fydd yn y llwyth cyntaf? Oes yna sicrwydd y bydd Cymru cael ein rhan deg o bob llwyth, nei ai cyfran o'r cyfan fyddwn ni'n ei gael?
"A fydd gan bawb - fel yr ydym yn gobeithio - yr un cyfle i gael brechlyn lle bynnag y byddan nhw?
"Rwyf am sicrhau nawr bod Llywodraeth Cymru yn gyrru hyn ymlaen, ac fe fyddwn ni'n chwarae ein rhan i graffu a gwneud yn siŵr fod hynny'n digwydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2020