Beth fydd y drefn o rhan brechu?
- Cyhoeddwyd
Gyda hyd at 1.4m o bobl i gael brechlyn Covid-19 yng Nghymru dros y misoedd i ddod, mae swyddogion yn paratoi ar gyfer un o'r rhaglenni iechyd fwyaf erioed.
Ond sut y bydd yn cael ei gyflwyno?
Dechreuodd y paratoadau yng Nghymru ym mis Mehefin ac unwaith y bydd y caniatâd terfynol yn cael ei roi, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y brechlynnau cyntaf yn cael eu rhoi o fewn saith i 14 diwrnod wedi hynny.
Bydd pawb dros 50 oed yn cael cynnig y brechlyn yn ystod y misoedd nesaf i gychwyn.
Ond beth allen ni ei ddisgwyl o ran y rhaglen waith?
Beth yw'r brechlynnau?
Gallai fod saith brechlyn gwahanol yn y pen draw.
Y cyntaf sydd ar gael yw'r brechlyn mRNA gan Pfizer / BioNTech. Mae Llywodraeth y DU wedi prynu 40m o ddosau o'r brechlyn hwnnw. Bydd angen dau ddos, tair wythnos ar wahân ar bob unigolyn sy'n cael y brechlyn hwn, a bydd Cymru'n cael cyfran o oddeutu 4.8% yn seiliedig ar ei phoblogaeth.
Y nesaf fydd y brechlyn AstraZeneca / Rhydychen a bydd llawer mwy o ddosau o'r un yma ar gael - gyda Llywodraeth y DU wedi archebu 100m o ddosau o flaen llaw.
Beth yw'r her?
Rhaid storio'r brechlyn mRNA ar 75 gradd o dan y rhewbwynt, a'i gludo hefyd ar y tymheredd isel hwnnw i'r lleoliadau canolog lle bydd yn cael ei ddefnyddio.
Efallai y bydd rhywfaint o gludiant yn bosibl ar dymheredd oergell arferol, a fyddai'n ei alluogi i gael ei gludo i gartrefi gofal, ond fel arall fe fydd yn ofynnol i'r rhai sydd ar y rhestr flaenoriaeth gyrraedd canolfannau brechu arbennig.
"Mae'n hynod gyffrous mai dim ond naw mis yn ddiweddarach o ddatgan y pandemig, mae gennym frechlynnau ar gael i'w cynnig a system ar waith i'w cynnig," meddai Dr Richard Roberts, pennaeth y rhaglen clefyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
"Bydd rhai yn gallu teithio ond rhai y byddem ni eisiau iddyn nhw aros lle maen nhw - fel mewn cartref gofal er enghraifft. Os gallwn ni ddatrys y broblem honno o gludo'r brechlyn ond pan ddaw'r brechlyn AstraZeneca / Rhydychen ar-lein, dyna frechlyn rydyn ni'n ei storio yn yr oergell, gallwn ei symud o gwmpas ac mae'n para chwe mis."
Pwy yn union fydd yn cael y brechlyn?
Bydd pobl hŷn, sy'n fwy agored i niwed a staff cartrefi gofal ymhlith y cyntaf i'w dderbyn.
Bydd Llywodraeth Cymru yn wedyn yn rhoi trefn blaenoriaeth ar waith, yn seiliedig ar gyngor gan Gydbwyllgor y DU ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI).
Mae disgwyl i'r drefn flaenoriaeth fod fel hyn:
Trigolion oedrannus mewn cartrefi gofal a gweithwyr cartrefi gofal
Pobl 80 oed a hŷn a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol
Pawb yn 75 oed a hŷn
Y rhai 70 oed a hŷn ac unigolion bregus yn glinigol
Pobl 65 oed neu'n hŷn
Unigolion 16-64 oed sydd â chyflyrau iechyd eraill sy'n cynyddu eu risg o salwch drwg neu farwolaeth
Pawb sy'n 60 oed a hŷn
Pawb sy'n 55 oed a hŷn
Pawb sy'n 50 oed a hŷn
Gweddill y boblogaeth.
Mae'r grwpiau blaenoriaeth yn cynrychioli 60% o'r boblogaeth ond hefyd 99% o'r holl farwolaethau sy'n gysylltiedig â Covid-19.
Pa mor hir y bydd y cynllun yn ei gymryd?
Er mwyn ei roi yn ei gyd-destun, rhoddwyd tua 900,000 o frechlynnau ffliw dros gyfnod o 10 i 12 wythnos y llynedd; mae 1.4 miliwn yn y grwpiau blaenoriaeth ar gyfer y brechlynnau Covid.
"Er ei fod yn fwy cymhleth oherwydd bod lleoliadau cymunedol yn cael eu defnyddio a'r logisteg gyda'r brechlyn, os gallwn ni sicrhau trefniant tebyg i'r un allwn ni ei gyflawni â'r ffliw, yna bydd yn golygu y byddwn yn gallu ei gyflwyno cyn gynted â phosibl," meddai Dr Roberts .
Sut byddaf yn gwybod pan fydd fy nhro i gael brechlyn?
Fe fyddwch chi'n cael gwybod gan y Gwasanaeth Iechyd. Bydd pob bwrdd iechyd yn cael ei gyfran a bydd brechlynnau'n mynd ledled Cymru ar yr un pryd.
Bydd canolfannau brechu torfol yn cael eu sefydlu - yn enwedig ar gyfer y set gyntaf o frechlynnau, yr mRNA o Pfizer - ac mae angen ei gadw ar dymheredd isel iawn.
Dywedodd Dr Gill Richardson, prif gynghorydd i'r prif swyddog meddygol: "Does dim modd cludo'r brechlyn ar ôl iddo gael ei wanhau, mae'n rhaid ei ddefnyddio ar y safle. Mae hwn yn frechlyn y mae angen ei ffurfio yn y fan a'r lle."
"Nid yw fel y brechlyn ffliw, lle mae'n cyrraedd yn barod ac mewn dosau sengl. Bydd mewn ffiolau a all weini pum dos a bydd yn cael ei ddanfon fel y gellir ei ddefnyddio yn y canolfannau torfol hynny. "
Pa mor hir fydd hwn yn ei gymryd?
Fe fyddai swyddogion iechyd yn hoffi gweld "miloedd yn hytrach na channoedd" yn cael eu brechu yn ystod yr wythnosau cyntaf.
Mae'n debygol y bydd y bobl fregus a'r rhai sy'n cysgodi am fod ganddyn nhw gyflyrau cronig, a fyddai fel arfer yn cael y brechlyn ffliw, yn cael eu cynnwys hefyd wrth iddo gael ei gyflwyno yn y grwpiau oedran.
"Mae hwn ar yr un raddfa a'r ymgyrch i frechu rhag y frech wen [yn y 1960au]," meddai Dr Gill Richardson.
Mae gobaith y bydd y nifer sy'n manteisio arno o leiaf 75%.
Beth fydd angen i mi ei wneud wedyn?
Yn ôl arbenigwyr iechyd y cyhoedd bydd angen i chi barhau i gadw at y canllawiau ymbellhau cymdeithasol, golchi dwylo a defnyddio masgiau. Bydd yn cymryd peth amser i fynd yn ôl i'r drefn arferol o fyw. Ni fydd pawb yn gallu cael brechlyn, ac yn sicr nid yn y cam cyntaf.
Ni fyddwch yn gallu cymysgu rhwng y brechlynnau; ar ôl i chi dderbyn y dos cyntaf rhaid i chi gadw at yr un brechlyn. Hefyd, nid yw'n cael ei argymhell eich bod yn cael y pigiad cyn pen 28 diwrnod ar ôl profi'n bositif neu o'r adeg y byddwch wedi dechrau symptomau Covid gyntaf.
Y tu hwnt i hynny, mae'n werth nodi na fydd dod i gysylltiad blaenorol â Covid yn effeithio ar eich cymhwysedd ar gyfer y brechlyn na'ch safle ar y rhestr flaenoriaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2020