Dynes o Wrecsam wedi ei thagu gan dennyn cŵn 'oedd yn ei helpu'

  • Cyhoeddwyd
Deborah RobertsFfynhonnell y llun, Llun Teulu

Clywodd cwest fod dynes o Wrecsam wedi tagu i farwolaeth ar ôl i'w dau gi dynnu eu tennyn a oedd o amgylch ei gwddf wrth iddi fynd â nhw am dro.

Cafwyd hyd i Deborah Roberts, 47, yn ardal Garden Village yn Wrecsam ar 8 Gorffennaf.

Roedd hi wedi bod yn mynd â'i dau anifail brid ci tarw (Bulldog) gyda pherthynas ifanc, a'r gred ydy ei bod wedi baglu - o bosib oherwydd ei chlefyd Huntingdon.

Roedd y ddau dennyn "choker" rhaff o amgylch ei gwddf wrth iddi gerdded yr anifeiliaid. Clywodd y cwest ei bod hi'n bosib bod y cŵn wedi bod yn ceisio ei chodi trwy dynnu ar y tennyn.

Clywodd y cwest fod Ms Roberts yn dioddef o glefyd Huntingdon a'i bod wedi gweld dirywiad yn ei gallu i symud.

Fel rheol, roedd hi'n gosod y tenynnau o amgylch ei gwddf, ond nid yn y ffordd y "byddai ynghlwm wrth y ci".

Fodd bynnag, dywedodd ei mab Callum Roberts wrth wrandawiad yn Rhuthun: "Nid ydyn ni'n gwybod beth ddigwyddodd ar y diwrnod."

Y cŵn wedi 'ceisio ei helpu'

Dywedodd Mr Roberts fod ei fam wedi bod yn cerdded gyda'i gyfnither ifanc, a aeth i chwilio am gymorth.

Ceisiodd dau weithiwr ei helpu. Mewn datganiad, dywedodd un ohonyn nhw: "Sylwais ar ferch ifanc yn rhedeg tuag ataf yn crio, gan ddweud' allwch chi fy helpu, mae rhywun yn tagu'."

Dywedodd fod y ddau gi yn tynnu "am yn ôl" a bod grym y cŵn yn achosi i'r corff symud.

Dywedodd ei gydweithiwr mewn datganiad fod y ddau dennyn tagu sydd fel arfer yn mynd o amgylch gyddfau'r cŵn o amgylch gwddf y ddynes.

Disgrifiodd sut roedd y ddau gi yn "llefain," gan ychwanegu: "Roeddwn i'n gallu gweld bod y ddynes yn anymwybodol. Roedd ei hwyneb yn borffor."

Er gwaethaf ymdrechion y gweithwyr a dau heddwas, nid oedd modd ei hachub.

Dywedodd mab Ms Roberts, Robert Roberts, wrth y cwest: "Maen nhw'n gŵn hyfryd. Os fyddech chi'n cwrdd â nhw nawr, bydden nhw'n neidio i fyny a'ch llyfu chi. Y cyfan roedden nhw'n ceisio ei wneud oedd helpu fy mam pan gwympodd hi."

Dywedodd y crwner cynorthwyol David Pojur ei fod yn achos "trasig".

"Am ryw reswm mae hi wedi rhoi'r ddau dennyn o amgylch ei gwddf .... rydych chi wedi dweud wrtha i nad dyna'r ffordd y byddai'n eu cael fel rheol .... efallai ei bod wedi baglu, nid ydym yn gwybod."

Dywedodd ei fod yn fodlon nad oedden nhw'n yn gŵn peryglus, ond eu bod yn "anifeiliaid cariadus a gofalgar".

Daeth y crwner i'r casgliad fod Ms Roberts wedi marw ar ôl cael ei thagu.

Pynciau cysylltiedig