Ateb y Galw: Y cyflwynydd Alex Humphreys
- Cyhoeddwyd
Y cyflwynydd Alex Humphreys sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Meilyr Emrys yr wythnos diwethaf.
Alex yw aelod diweddaraf tîm Tywydd S4C, ond cyn hynny, buodd hi'n cyflwyno'r rhaglen newyddion i blant, Ffeil, am chwe blynedd. Mae hi hefyd yn gyfarwydd fel cyflwynydd y rhaglen newyddion i ddysgwyr, Yr Wythnos, Band Cymru, a Newsround.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mae gennai atgof cynnar o Mam yn ceisio canu fi i gysgu gyda hwiangerddi pan o'n i'n blentyn bach. Os o'n i ddim yn hoffi be' oedd hi'n canu, fyswn i'n gwneud synau tan iddi newid y gân, a dwi'n cofio clywed ei rhwystredigaeth achos roedd hi'n rhedeg allan o ganeuon - o'n i mor ffysi! Fy hoff gân oedd The Runaway Train.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Yn gwylio The Lion King rai misoedd nôl. Dyma fy hoff ffilm Disney ond (spoiler alert...) mae'n dorcalonnus pan mae Muffasa'n marw, ac eto pan mae Simba'n gweld adlewyrchiad ei dad yn y dŵr. Mae cerddoriaeth y rhan ola' 'ma mor emosiynol - darn o'r enw This Land, a gyfansoddwyd gan Hans Zimmer - un o fy hoff ddarnau o gerddoriaeth ffilm.
Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?
Robert Downey Jr. Dyma'r adeg pan oedd o'n chwarae Larry yn Ally McBeal. O'n i am ei briodi... doedd o jyst ddim yn gwbod hynny eto! Yn anffodus 'nath hynny ddim digwydd!
Nes i bostio neges ato fo ar ei official fan page yn holi fo am ei broses o gyfansoddi ac yn gofyn os oedd ganddo fwy o ddarnau o gelf (roedd o wedi creu gwaith celf i elusen), a rhai misoedd wedyn ges i e-bost ganddo fo (yn ôl y sôn), yn ateb fy nghwestiynau!
Hyd heddiw, does gennai ddim syniad os mai fo oedd hyn go iawn, ond o'i atebion a'r pethau eraill ddudodd o yn yr e-bost, dwi yn hoffi meddwl mai fo oedd o. A hyd yn oed os ddim, o'n i'n wên o glust i glust am fisoedd ar ôl hynny!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Llaneurgain. Does nunlle'n debyg i gartref! Dwi bellach yn byw yng Nghaerdydd, ond pan fydda i'n mynd adre i weld y teulu, dwi wrth fy modd yn mynd i'r dafarn leol achos dwi wastad yn gweld rhywun dwi'n nabod (fel yn Cheers... "where everybody knows your name"). Ac ar ochrau'r pentre, mae 'na lwybrau trwy gaeau a choedwigoedd sy'n hardd i gerdded. Yn syml, mae'n rhywle dwi'n teimlo'n gartrefol ac yn hapus.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Pan o'n i tua 13 oed, o'n i mewn disgo ac roedd 'na hogyn o'n i'n rili ffansio. Roedd o wedi bod yn edrych arna i o bell am sbel ac yn gwenu - bendant yn rhoi'r argraff roedd o hefo diddordeb. O'n i'n meddwl bod gennai siawns, felly o'n i'n gwenu nôl. Ond pan nes i droi rownd, welais i ferch yn edrych draw ac yn gwenu ato fo. Mae'n troi allan mai dyma oedd ei gariad, yn sefyll y tu ôl i mi yr holl amser hefo'i ffrindiau - a hi oedd yr un oedd o'n edrych ar, nid fi. Gyted.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Hmm... methu penderfynu rhwng dau: Jeff Lynne o'r band ELO, a Cleopatra. Fyswn i wrth fy modd i gael eistedd lawr am beint gyda Jeff Lynne achos mae'n gynhyrchydd a chyfansoddwr mor dalentog.
Fel cerddor a chyfansoddwr fy hun (yn fy amser sbâr), dwi wedi edmygu Jeff ers o'n i'n ifanc. Ac i feddwl bod o wedi cynhyrchu cân i'r Beatles a chanu gyda'r supergroup, The Travelling Wilburys, gyda Bob Dylan a Roy Orbison... mae'n rhaid bod ganddo straeon gwych!
A Cleopatra oherwydd o'n i'n fascinated gyda'r Hen Aifft pan o'n i'n ifanc. Fyswn i'n hoffi gwbod pa fath o berson oedd hi a sut oedd hi wir yn edrych.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Sbio ar fy ffôn yn rhy hwyr! Oes 'na unrhywun arall yn ffeindio'i hunain yn Googlo'r pethau mwya randym hwyr y nos!? Am ryw reswm, mae'r cwestiynau mwya' rhyfedd yn dod ata i adeg yma fel, "Sut mae gwneud gingerbread men?", "Pwy laddodd 2Pac?", "Beth yw'r harmoni 4 rhan i'r emyn Tallis' Canon?"
Yn aml fyddai'n trio darllen llyfr yn lle, achos unwaith dwi wedi codi fy ffôn mae o fel neidio lawr rhyw dwll cwningen, ac mae cwpl o oriau'n mynd heibio mewn chwinciad! Y bore wedyn fydda i wastad yn difarru peidio rhoi fy ffôn lawr yn gynt.
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
O'n i'n fodel am gyfnod pan o'n i yn y brifysgol, ac yn gwneud sioeau byw gyda chwmnïau fel L'Oreal a Schwarzkopf.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mae gennai atgofion da o nosweithiau ffab yng nghlwb nos y Tiv ym Mwcle gyda fy ffrindiau ysgol, ond dwi'n meddwl bod rhaid i mi ddewis noson yn anialwch y Sahara. Es i ar daith o gwmpas Moroco gyda fy chwaer a fy ffrind nôl yn 2014, a 'natho ni dreulio noson o dan y sêr ar ôl teithio yno ar gefn camel.
Dwi'n cofio fo'n cymryd oes imi gysgu achos o'n i wedi syfrdanu gyda'r holl sêr - dwi byth yn fy mywyd wedi gweld unrhywbeth tebyg. Profiad bythgofiadwy (ond, yn lwcus, o'n i'n cysgu'n sownd pan ges i fy mrathu gan rywbeth ar fy nhalcen... dwi dal ddim isho gwbod pa greadur oedd wedi crwydro drosta i, ond roedd y briw yn ddigon mawr y bore wedyn!).
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Creadigol, poser, ffyni.
O archif Ateb y Galw:
Beth yw dy hoff gân a pham?
Runaway Train gan Soul Asylum (nid yr un gân dwi'n sôn amdani uchod, er rŵan dwi'n gweld ella bod 'na ryw gysylltiad isymwybodol o'n i heb weld o'r blaen!). Mae'n un o'r caneuon 'na ti'n rhoi 'mlaen ar ôl diwrnod caled ac yn syth bin mae pob dim yn well.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Chwarae'r corned am 'chydig, a fy mhiano, yna'n treulio gweddill y diwrnod gyda fy nheulu.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Back to the Future yw fy hoff ffilm. Mae'r gerddoriaeth yn wych a'r stori'n glyfar. Y cwestiwn nesa mae pawb yn gofyn yw "pa un?" a dwi wastad yn methu dewis rhwng y cyntaf a'r trydydd.
Y cyntaf yw'r clasur, wrth gwrs, ond mae'r un ola'n grêt achos mae'n cyfeirio ac yn ychwanegu at bethau o'r ddau gyntaf mewn ffordd glyfar, ac mae Michael J Fox a Christopher Lloyd yn briliant gyda'i gilydd.
Es i i weld y premiere o Back to the Future: The Musical ym Manceinion ddiwedd mis Chwefror - dyma un o'r pethau ola' wnes i cyn y cyfnod clo ac o'n i'n lwcus, achos mi gafodd y sioe ei chanslo'n fuan wedyn oherwydd y pandemig.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Beyoncé. Cyfle i serennu mewn fideo gerddoriaeth a dawnsio mewn gwisgoedd ffab!
Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?
Skewers cyw iâr satay, cinio Sul Dad, a chacen gaws key lime.
Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?
Dafydd Meredydd