Ateb y Galw: Yr actor a'r digrifwr Emyr 'Himyrs' Roberts
- Cyhoeddwyd
Yr actor a'r digrifwr Emyr 'Himyrs' Roberts sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Owen Alun yr wythnos diwethaf.
Yn adnabyddus am ei actio, ei gomedi a'i ddynwarediadau, roedd hefyd yn aelod o'r band ska poblogaidd, Y Ficar, yn ystod yr 1980au.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Gweld Mam yn ei dagrau oherwydd bod ryw foi o America wedi marw. Ffeindio allan flynyddoedd wedyn mai adeg saethu Arlywydd Kennedy yn 1963 oedd o.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Helen Morgan - Miss World 1974 a gafodd uffar o gam oherwydd ei bod yn fam sengl. Mi gawsom affêr wych yn fy mreuddwydion!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Gollwng bag siopa er mwyn codi llaw ar rywun o'n i'n 'nabod ochr arall y stryd.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Ar wahân i feddwl am yr uchod, canu'r anthem yn gêm y Barbariaid llynedd. Colli deigryn bach bob tro efo'r anthem - weithia' fydda i'n meimio er mwyn peidio mynd yn blubbering wreck!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Nagoes siŵr! Tam' bach yn ddiog weithiau, lot rhy cool a laid back, ddim yn cofio negeseuon pwysig, ac yn aml yn hwyr... ond fel arall yn berffaith!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Llwybr yr arfordir, ynghanol coed y Faenol yn edrych allan dros y Fenai. Lle tawel, braf.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mi all fod yn noson wobrwyo Sgrech 1983 - Y Ficar yn ennill gwobr prif fand Cymru; neu 1/7/2016 - llwyddo i gael Canolfan y Chapter i newid amser fy sioe Allan O Diwn o 8 i 6 o'r gloch, cael ymateb da gan y gynulleidfa ac wedyn ras i'r dafarn i weld noson orau pêl-droed Cymru erioed - cyrraedd rownd gynderfynol yr Ewros ar ôl curo gwlad Belg 3-1!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Diog, hwyr, anghofus.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Llyfr Cymraeg - Lladd Duw - syfrdanol.
Llyfr Saesneg - Lord Of The Rings - aruthrol.
Ffilm - In The Heat of The Night - ysgytwol.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Dafydd Ap Gwilym - saff o gael cythraul o noson, oni bai bod y boi'n brolio gormod a rhoi stretsh ar bethau!
O archif Ateb y Galw:
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mi faswn wedi gallu bod yn fab i arlywydd America tasa Mam erioed wedi meddwl sefyll a chael ei ethol. Roedd hi wedi ei geni a'i magu yn Utica, New York, UDA.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Tollti'r wisgi mwya' welodd neb erioed.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Hey Bulldog gan y Beatles - geiriau Lennon! Er rhaid i mi ddeud dwi wedi gwirioni efo Llygaid Ebrill gan Blodau Papur, ond ella fydd sengl nesa' Achlysurol yn rhagori, sef band y meibion!
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Goujons cyw iâr a chilli dip, filet stêc a chips cartra, crwmbl riwbob a chwstard - wedyn gwely am fis! Neu 'sbyty efo'n gall-stones!
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Y dyn cyfoethocaf yn y byd - wedyn trosglwyddo gymaint ag y gallaf mewn diwrnod i gyfrif y boi pen moel 'ma'n Y Felinheli.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Gruffudd Owen