Cyfyngiadau newydd yn dod i rym yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae cyfyngiadau newydd wedi dod i rym ar draws Cymru nos Wener er mwyn atal lledaeniad Covid-19.
Mae'r cyfyngiadau yn effeithio'n bennaf ar fusnesau lletygarwch ac atyniadau dan do.
O hyn allan, mae tafarndai, bariau, bwytai a chaffis yn gorfod cau erbyn 18:00 ac ni fydd hawl ganddynt i weini alcohol. Wedi 18:00 bydd busnesau ond yn cael darparu gwasanaethau tec-a-wê.
Ond fe fydd hawl teithio rhwng Cymru a rhannau o Loegr a'r Alban wedi 18:00 nos Wener.
Wrth siarad gyda BBC Cymru fore Gwener dywedodd y gweinidog iechyd Vaughan Gething ei fod yn "deall rhwystredigaeth pobl sydd yn berchen ar fusnesau a'r rhai sydd yn gweithio iddyn nhw".
Mewn cynhadledd i'r wasg ddechrau'r wythnos, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod cynnydd "trawiadol" wedi bod yn nifer yr achosion o goronafeirws yng Nghymru ac felly bod y cyfyngiadau newydd yn anorfod gan fod tystiolaeth yn awgrymu y gallai 1,600 o bobl ychwanegol golli eu bywydau dros gyfnod y gaeaf.
Bydd y cyfyngiadau yn cael eu hadolygu ar 17 Rhagfyr ac yn cael eu trafod yn y Senedd yr wythnos nesaf.
Mae'r cyfyngiadau newydd wedi cael eu beirniadu gan berchnogion busnesau a phleidiau gwleidyddol eraill.
Yn ôl Plaid Cymru, mae'r sector lletygarwch yn talu'r pris wedi i fesurau llymach beidio cael eu cyflwyno ar ddiwedd y cyfnod clo byr ar 9 Tachwedd.
Yn y Senedd, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Paul Davies, bod cyfyngiadau cenedlaethol yn annheg i ardaloedd lle mae'r achosion o'r haint yn isel.
Ergyd fawr: Ymateb yr Harbwrfeistr, Aberaeron
Mae gwesty'r Harbwrfeistr yn Aberaeron wedi cau ei ddrysau am 18:00 nos Wener wedi cyhoeddiad y Prif Weinidog ddechrau'r wythnos.
"Mae'n ergyd fawr, fawr, fawr", meddai Steffan Walker, is-reolwr yr Harbwrfeistr.
"Mae fe jyst yn galed i gau popeth lawr ar ôl ymdrech ni i gyd i gadw'r lle i fynd, i gadw pobl yn saff, i gadw staff yn saff. Words can't describe it mewn ffordd.
"Fel gwesty o'n i'n llawn tan fis Ionawr, roedd y byrddau i gyd wedi cael eu bookio lan yn barod... Fel busnes mae'n galed gweld ni'n cau lawr a rhedeg ar ôl pawb i geisio rhoi gwybod i bawb.
"Fi'n gwybod fel llety gallen ni agor, ond fi'n gwybod hefo'r staff i gyd, cynhesu'r adeilad, a'r holl gostau eraill, o'dd dim synnwyr cadw e ar agor.
"Mae e lawr i arian yn anffodus. Ar ddiwedd y dydd, i redeg busnes mor fowr â hyn, dyw e ddim yn gyfleus rhedeg busnes o frecwast tan amser cinio, heb ddim cwrw nag alcohol, ni'n colli'r sales o hynny i gyd.
"Felly dyw e ddim yn gwneud synnwyr i ni fel busnes i aros ar agor, a dyw takeaway ddim yn cymryd yr un fath o arian yn anffodus chwaith."
Wrth sôn am benderfyniad Mark Drakeford i atal gwestai a bwytai rhag agor ar ôl 18:00, dywedodd: "Dwi yn deall rhywfaint pam mae wedi neud e, ond... 'da ni dal heb weld y wyddoniaeth."
Ychwanegodd bod busnesau i gyd yn "cael eu cosbi" am ymddygiad nifer fach o fusnesau "sy'n gadael ni lawr".
Dyw'r Harbwrfeistr ddim yn bwriadu ailagor tan 14 Ionawr, ond dywedodd Mr Walker efallai na fyddant yn ailagor tan yn hwyrach yn y flwyddyn.
Wrth gael ei holi ar Radio Walesdywedodd y Gweindiog Iechyd Vaughan Gething: "Rwy'n deall rhwystredigaeth pobl sydd yn berchen ar fusnesau a'r rhai sydd yn gweithio iddyn nhw, ond y dewis arall yw, pe na bai ni'n gweithredu, os na fyddwn ni yn gwneud beth mae SAGE, ac ein grŵp ymgynghori technegol ni yn dweud ar graddfeydd lledaenu, yna bydd mwy o bobl yn cael Coronafeirws, mwy o bobl yn cael niwed, a mwy o bobl ddim yma.
"Dyma y dewis ofnadwy ry'n ni'n wynebu.
"Felly fe wnaethon ni ddewis i osgoi y niwed mwya' o farwolaethau sylweddol gellid eu hosgoi, ond wrth wneud hynny i ni'n gwybod y byddwn ni yn achosi niwed i'r sector lletygarwch yn enwedig."
Ddydd Iau fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod hawl gan bobl deithio rhwng Cymru ac ardaloedd lle mae'r cyfyngiadau lleiaf llym sef:
Haen 1 a 2 yn Lloegr,
Lefelau 1 a 2 yn Yr Alban.
Bydd hawl gan hyd at dri chartref i gwrdd dan do am hyd at bum diwrnod rhwng 23 a 27 Rhagfyr wedi i bedair llywodraeth y DU gytuno ar y trefniadau.
Mewn ychwanegiad i'r rheolau ddydd Gwener, gall un person unigol ymuno gyda'r swigen os fyddai peidio gwneud yn golygu y byddai'r person yna ar ben eu hunain ar ddydd Nadolig.
Disgrifodd Mr Drakeford hyn fel "ychwanegiad pwysig i drefniadau'r Nadolig" er mwyn sicrhau na fyddai pobl felly'n "cael eu gadael allan".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2020